Mathrafal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Mathrafal''' (hefyd erbyn heddiw '''Castell Mathrafal''') oedd prif lys brenhinoedd teyrnas Powys ac un o Dair Talaith Cymru, ynghyd ag Aberffraw a ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Mathrafal''' (hefyd erbyn heddiw '''Castell Mathrafal''') oedd prif lys brenhinoedd [[teyrnas Powys]] ac un o [[Tair Talaith Cymru|Dair Talaith Cymru]], ynghyd ag [[Aberffraw]] a [[Castell Dinefwr|Dinefwr]]. Yno hefyd yr oedd eglwys bwysicaf y dalaith hyd y [[13eg ganrif]]. Roedd yn ganolfan weinyddol i [[cantref|gantref]] [[Caereinion]] yn ogystal.
 
Heddiw mae olion y safle i'w cael ar drwyn isel o dir ger aber [[Afon Banwy]] ac [[Afon Efyrnwy]], 3 milltir i'r gogledd o bentref [[Llanfair Caereinion]] a 2 milltir i'r de o [[Meifod|Feifod]] (tua 6 milltir i'r gorllewin o'r [[Trallwng]]), gogledd [[Powys]]. Ceir olion muriau pridd sylweddol ar ffurf sgwar amddiffynol ar gefnen isel ar lan Afon Banwy. Fe'u atgyfnerthir gan ffos. Mae'r safle'n mesur tua 400 troedfedd ar draws ar ei letaf ac mae'r muriau'n amgau tua 100 medr sgwar o dir. Yn y gornel ddwyreiniol ceir adfeilion hen gastell Normanaidd (gweler isod).