Chinoiserie: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Jwg porslen [[Fiennaidd o 1799 a ddyluniwyd i ddynwared...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:33, 7 Hydref 2014
Arddull gelfyddydol Ewropeaidd yn yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif oedd chinoiserie.[1] Dyluniwyd dodrefn a chelfi tŷ, crochenwaith, tecstilau, a gerddi i ddangos argraff ffansïol yr Ewropeaid o gelfyddyd Tsieina.[2] Cafodd porslen, sidan a lacrwaith ei fewnforio o Tsieina a Japan yn ystod y cyfnod hwn, gan annog dylunwyr a chrefftwyr Ewrop. Roedd y mudiad ar ei anterth rhwng 1750 a 1765.[3] Roedd yn boblogaidd iawn ymhlith yr aristocratiaid a'r llysoedd brenhinol, yn enwedig yn Ffrainc dan y Brenin Louis XIV, ac ymddangosodd hefyd ym mhensaernïaeth, y theatr, a darluniadau llyfrau.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur yr Academi, [chinoiserie].
- ↑ (Saesneg) chinoiserie. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Hydref 2014.
- ↑ (Saesneg) Style Guide: Chinoiserie. Amgueddfa Fictoria ac Albert. Adalwyd ar 7 Hydref 2014.
- ↑ Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 320.