Afon Banwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae Afon Banwy yn afon yng ngogledd-orllewin Powys. Mae'n tarddu yn y bryniau ger y bwlch sy'n cludo'r A458 rhwng Mallwyd a'r Trallwng. Nant Cerrig-y-groes ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae'r [[Afon Banwy]] yn [[afon]] yng ngogledd-orllewin [[Powys]].
 
Mae'n tarddu yn y bryniau ger y bwlch sy'n cludo'r [[A458]] rhwng [[Mallwyd]] a'r [[Trallwng]]. Nant Cerrig-y-groes yw enw'r afon yn ei tharddle ger Moel y Llyn. Mae'n llifo i'r dwyrain wedyn. Ymuna nifer o ffrydiau llai cyn iddi gyrraedd Pont Twrch ger pentref [[Y Foel (Trefaldwyn)|Y Foel]], lle daw [[Afon Twrch]] i mewn iddi. Dwy filltir ar ôl hynny daw [[Afon Gam]] i lawr o Nant yr Eira i lifo iddi ger [[Llangadfan]].
 
Mae'r afon yn ymdolenni rhwng bryniau canolig eu huchder ac yn cyrraedd pentref [[Llanfair Caereinion]] lle mae pont drosti. Am bum milltir olaf ei chwrs mae'n troi i'r gogledd trwy gwm cul. 'Yr Hafesb' yw'r enw lleol arni am y rhan olaf o'i chwrs, heibio i safle brenhinoedd [[teyrnas Powys]] ym [[Mathrafal]]. Un filltir i'r gogledd o'r llys mae Afon Banwy yn ymuno ag [[Afon Efyrnwy]] ger y Bont Newydd.
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Banwy]]