Eglwys Sant Pedr, Rhuthun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
 
teipo, dolen
Llinell 1:
[[File:St Peter's Church, Ruthin - geograph.org.uk - 569869.jpg|thumb|Eglwys Sant Pedr: y gangell]]
Eglwys Anglicanaidd ydy '''Eglwys Sant Pedr, Rhuthun''' (Saesneg: ''Collegiate and Parochial Church of St Peter'') sydd wedi'i lleoli yng ngalonnghalon tref farchnad [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]]. Saif o fewn [[esgobaeth]] [[Llanelwy]].<ref>[http://www.ruthintownparishes.info/ruthin.html Gwefan plwyfi tref Rhuthun;] 19 Medi 2014</ref> Mae'n dyddio'n ôl i 1310.
 
==Hanes==
Ceir tystiolaeth fod Cristnogaeth wedi cyrraedd Dyffryn Clwyd erbyn y [[7fed ganrif]] pan sefydlwyd sawl eglwys neu gell - llawer ohonynt ar union leoliad yr eglwysi Celtaidd cynharach. Un o'r cyntaf yn yr ardal oedd [[Sant Meugan]] a sefydlodd gell yn yr ardal a elwir heddiw'n 'Llanrhudd', a hynny cyn Rhuthun ei hun, a dyma mewn gwirionedd gnewyllun yr achos a sefydlwyd yn ddiweddarach yn nhref Rhuthun. Sonir amdano yn ''Taxatio Norwich'' yn 1254 ble ceir cofnod o iawndal yn cael ei dalu am y difrod milwrol a wnaed gan Coron Lloegr i'r eglwys.<ref>''The Collegiate and Parochial Church of St Peter''; booklet published internally by the church. Written by church members of the Dioces.</ref>
 
Erbyn 1282, gwelir cychwyn y symudiad o drosglwyddo pwer yr eglwys o Lanrhudd i Ruthun; trosglwyddodd [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] holl eglwysi [[Dyffryn Clwyd (cantref)|Cantref Dyffryn Clwyd]] i'w ffrind [[Reginald de Grey]], Barwn Wilton, ac ar ei farwolaeth trosglwyddwyd ei eiddo i'w fab John.
 
Yn 1310 sefydlodd John fan addoli o'r enw ''Capella St. Petri'' i ddinasyddion Saesnig y fwrdeisdref newydd. Sefydlodd hefyd goleg ''collegiate'', sef eglwys gydag chymuned o offeiriaid; yn yr achos yma, cyflogwyd saith.