Mamal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
3
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
4
Llinell 51:
 
==Cymru==
===Cynhanes===
Ym [[Bro Morgannwg|Mro Morgannwg]] y darganuwyd y dystiolaeth gynharaf o famaliaid yng Nghymru, i'r de o [[Pen-y-bont ar Ogwr]] mewn chwareli glo. Yma, yn 1947 y darganfuwyd olion ''[[Morganucodon watsoni]]'', anifail bychan tebyg i'r [[llyg]], a oedd yn byw yno tua 200,000 [[CP|o flynyddoedd yn ôl]]. Ceir tystiolaeth o esgyrn, [[ffosil]]iau a chofnodion ysgrifenedig (o amser y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniaid]] sy'n taflu golau ar famaliaid sydd wedi hen ddiflannu, rhai cyn hyned a 225,000 CP. Canfuwyd esgyrn llawer o famaliaid anghyffredin heddiw mewn ogofâu yng Ngogledd Cymru hefyd e.e. [[Ogof Bontnewydd]], [[Cefnmeiriadog]], Sir Ddinbych. Ymlith y mamaliaid yn [[Hen Oes y Cerrig]] y mae: y [[rhinoseros|rhinoseros blewog]], y [[mamoth]], yr [[udfil]], [[ceffyl]], [[blaidd]]a [[bual]]. Mewn cyfnodau cynhesach (cyn y rhewlifau), roedd yma hefyd y [[llew]], y rhinoseos trwyngul a'r [[eliffant|eliffant ysgithrsyth]].
 
Erbyn [[Oes Newydd y Cerrig]], dylanwadodd [[ffermio]] ar fywyd mamaliaid a daeth [[ci|cŵn]], [[gafr|geifr]], [[mochyn|moch]] a'r [[ceffyl]] yn anifeiliaid domestig. Geifr oedd y mwyaf niferus yng Nghymru - tan ddiwedd yr [[Oesoedd Canol]]. Er mwyn sicrhau tir pori, cliriwyd llawer o goedydd Cymru - a newidiodd hyn llawer ar yr amgylchedd e.e. o'r boncyffion y daeth y rhan fwyaf o [[mawn|fawnogydd]] Cymru. Roedd hyn yn dinistrio llawer o gynefinoedd adar a mamaliaid fel [[arth|eirth]], [[blaidd|bleiddiaid]] a cheirw. Felly wrth i'r tir amaethyddol gynyddu, lleihaodd y tir gwyllt.
 
===Llenyddiaeth a chelf===
Yn yr [[hwiangerdd]] ''[[Pais Dinogad]]'' o'r [[7fed ganrif]], crybwyllir nifer o famaiaid gan gynnwys y [[bele coed]], y [[baedd gwyllt]], y [[llwynog]], y [[cath wyllt|gath wyllt]] a'r [[carw|iwrch]]. Ceir addurniadau o famaliaid yn aml iawn mewn hen [[llawysgrif|lawysgrifau]], er mwyn dod a fflach o liw i'r gwaith, a cheir cyfeiriadau at famaliaid yn britho'r [[Mabinogi]] ac oddi fewn i [[Cyfraith Hywel Dda|gyfreithiau Hywel Dda]].<ref>Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tud 597</ref> Ceir hefyd enwau lleoedd ac afonydd yn cynnwys cyfeiriad at famal arbennig.