Christine James: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tynnu clawr llyfr o'r wybodlen (nid llun o Dr James mo hwn!)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen awdur
| enw = DrYr Athro Christine James
| delwedd =
| maintdelwedd =
| pennawd = DrYr Athro Christine James
| ffugenw =
| enwgeni =
Llinell 31:
| gwefan = [http://www.swan.ac.uk/staff/academic/artshumanities/aht/jamesc/ Proffil staff ar wefan Prifysgol Abertawe]
}}
Mae'r DrAthro '''Christine James''' yn athroAthro yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] ym [[Prifysgol Abertawe|Mhrifysgol Abertawe]]. Enillodd y Goron yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005|Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau]] yn [[2005]] am ei chasgliad o gerddi rhydd ar thema o'i dewis ei hun.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4730000/newsid_4736200/4736293.stm Coron i Christine] Gwefan Newyddion y BBC. 1-08-2005. Adalwyd ar 12-07-2009</ref> Enw'r casgliad oedd ''Llinellau Lliw'' a chyflwynodd y gwaith o dan y ffugenw "Pwyntil". Maent yn gerddi egffrastig - hynny yw, cerddi sy'n ymateb i weithiau celf. Hi hefyd oedd bardd gwadd y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch, 2008.
 
Fe etholwyd Christine James yn aelod o Fwrdd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 2010 ac fe'i henwebwyd gan Fwrdd yr [[yr Orsedd|Orsedd]] i fod yn [[Archdderwydd]] o 2013-2016.<ref>[http://www.bbc.co.uk/newyddion/18562551 Gwefan y BBC]</ref>. Fe'i gorseddwyd yn Archdderwydd Cymru yng Nghaerfyrddin, 29 Mehefin 2013, yn ystod Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
 
==Ei chefndir a'i gwaith==
Ganed Christine James (née Mumford) yn [[Tonypandy|Nhonypandy]] lle dysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn [[Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth]]. Astudiodd y Gymraeg ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] lle enillodd radd BA yn y dosbarth cyntaf yn 1975. Aeth ymlaen i olygu testun o Gyfraith Hywel, cyfreithiau hanesyddol Cymru, ar gyfer gradd doethuriaeth, a ddyfarnwyd iddi yn 1984.
 
Rhwng 1979 a 1981 bu'n gynorthwyydd golygyddol yn yr Academi Gymreig, yn gweithio ar ''Cydymaith i Lenydddiaeth Cymru''. Yn [[1985]], fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, lle y mae erbyn hyn yn athroAthro.<ref>[http://www.swan.ac.uk/staff/academic/artshumanities/aht/jamesc/]</ref> O ran ei hymchwil academaidd y mae'n arbenigo ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar ac ar lenyddiaeth cymoedd diwydiannol de Cymru. Mae hi'n un o gymrodyr etholedig yr [[Academi Gymreig]] a [[Chymdeithas Ddysgedig Cymru]].
 
Yn 2001 cyhoeddwyd ei golygiad o gerddi'r bardd [[D. Gwenallt Jones]], ''Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn'' (Gwasg Gomer).