Castell Dinefwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Dinefwr Castle.jpg|thumb|400px|Castell Dinefwr]]
Mae '''Castell Dinefwr''' yn un o gestyll y tywysogion Cymreig, ar safle prif ganolfan teyrnas [[Deheubarth]]. Yr oedd Dinefwr (a Deheubarth) yn un o [[Tair Talaith Cymru|Dair Talaith Cymru]], ynghyd ag [[Aberffraw]] a [[Mathrafal]]. Saif uwchben [[Afon Tywi]] gerllaw [[Llandeilo]], [[Sir Gaerfyrddin]], rai cannoedd o droedfeddi uwch yr afon.
 
Yn ôl y traddodiad, adeiladawyd castell ar y safle yma gan [[Rhodri Mawr]], ond nid oes olion o'r cyfnod yma. Yn ddiweddarach, Dinefwr oedd prif lŷs ŵyr Rhodri, [[Hywel Dda]], brenin cyntaf Deheubarth ac yn nes ymlaen brenin y rhan fwyaf o Gymru. Credir i'r castell gael ei ail-adeiladu gan [[Rhys ap Gruffudd]]. Mae [[Gerallt Gymro]] yn adrodd stori am [[Harri II, brenin Lloegr]] yn cynllunio ymosodiad ar y castell yn ystod ymgyrch yn erbyn Rhys ac yn anfon un o'i ŵyr i archwilio'r tir, gyda chlerigwr o Gymro fel arweinydd iddo. Gofynnwyd i'r clerigwr ei arwain at y castell ar hyd y ffordd hawddaf, ond yn lle hynny aeth ag ef ar hyd y ffordd anoddaf posibl, gan ddiweddu'r perfformiad trwy aros i fwyta glaswellt, gan egluro i'w gydymaith mai dyma oedd bwyd y bobl leol mewn amseroedd celyd. Penderfynodd y brenin beidio ymosod ar y castell.