Palesteina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Gweler hefyd: Jimmy Carter |
diweddaru |
||
Llinell 3:
Tiriogaeth hanesyddol yn y [[Dwyrain Canol]] sy'n gorwedd rhwng y [[Môr Canoldir]] ac [[Afon Iorddonen]] a gwlad a grewyd ar ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] o dan reolaeth [[DU|Prydain]] wrth i hen [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn y Dwyrain Canol ddarnio yw '''Palesteina'''. Cyfeirir ati yn aml wrth yr enw '''Y Tir Sanctaidd''' hefyd, am ei bod yn cynnwys lleoedd sy'n gysegredig i'r tair crefydd Abrahamig, sef [[Cristnogaeth]], [[Iddewiaeth]] ac [[Islam]]. Er na fu iddi hanes hir fel uned wleidyddol fodern, llwyddwyd yn sgîl sefydlu gwladwriaeth [[Iddewiaeth|Iddewig]] [[Israel]] ar yr un diriogaeth, i lunio hunaniaeth Balesteinaidd genedlaethol, a gâi ei mynegi'n bennaf trwy [[Mudiad Rhyddid Palesteina|Fudiad Rhyddid Palesteina]] (PLO).
Bellach mae gan y [[Palesteiniaid]] wladwriaeth yn y [[Tiriogaethau Palesteinaidd]] hyn: [[Llain Gaza]], rhwng Israel a'r [[Yr Aifft|Aifft]] ar lan y Môr Canoldir, a reolir gan [[Awdurdod Cenedlaethol Palesteina]]. Mae'r [[Y Lan Orllewinol|Lan Orllewinol]], rhwng Israel a [[Gwlad Iorddonen]], hefyd o dan reolaeth yr Awdurdod hwn. Fodd bynnag, mae'r tiriogaethau hyn yn cael eu hystyried yn Diriogaethau a Feddianwyd gan y Palesteiniaid a'r [[Cenhedloedd Unedig]] am fod Israel yn rheolwr ''[[de facto]]'' arnynt o hyd. Mae tua 100 o wledydd led-led y byd yn cydnabod hawl y [[Palesteiniaid]] i'w hanibyniaeth. Ar 3 o Hydref 2014 cafwyd anerchiad gan Brif Weinidog [[Sweden]] y byddai ei wlad yn cydnabod cenedl Palesteina ac yna ar 13 Hydref 2014 pleidleisiodd Llywodraeth y DU o 274 i 12 o blaid cydnabod Palesteina yn genedl. <ref>[http://imeu.net/news/article0065]</ref><ref>{{cite
==Daearyddiaeth==
|