Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Thomas Aquinas"

Ychwanegwyd 106 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B (Bot: Migrating 103 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q9438 (translate me))
B
Offeiriad, athronydd, diwinydd a sant o'r [[Eidal]] oedd '''Thomas Aquinas''', [[Ordo Praedicatorum|O.P.]] (hefyd '''Thomas o Aquin''' neu '''Acwin''' neu '''Aquino'''; c. [[1225]] - [[7 Mawrth]] [[1274]]). Oherwydd ei amlygrwydd fel diwinydd, adwaenir ef hefyd fel y '''''Doctor Angelicus, Doctor Universalis''''' a '''''Doctor Communis'''''. Ystyria'r [[Eglwys Gatholig]] ef fel yr athro pwysicaf i'r rhai sy'n astudio i fynd yn [[offeiriad|offeiriaid]]. Mae'n fwyaf enwog am ei weithiau ''[[Summa Theologica]]'' a ''[[Summa Contra Gentiles]]''. Ef hefyd ysgrifennodd yr emyn ''Sacris Solemniis'' sy'n cynnwys [[Bara Angylion Duw]].
 
==Bywgraffiad==
Ganed Aquinas yng nghastell [[Roccasecca]] yn [[Teyrnas Sicilia|Nheyrnas Sicilia]] yn yr hyn sy'n awr yn [[Lazio|Regione Lazio]]. Roedd o deulu o uchel dras, ei dad, Landulf, yn Gownt a'i fam yn perthyn i linach yr [[Hohenstaufen]]. Roedd ei ewythr, Sinibald, yn abad abaty [[Monte Cassino]], a bwriad y teulu oedd i Thomas ei olynu.
 
Addysgwyd ef ym Mhrifysgol [[Napoli]], lle daeth dan ddylanwad [[Urdd y Dominiciaid]]. Roedd ei delu yn anfodlon iawn ar hyn, gan ei garcharu am flwyddyn, ond wedi i'r Pab gymeryd rhan yn y mater, rhyddhawyd ef ac ymunodd a'r Urdd. Bu'n astudio yn ysgol y Dominiciaid yng [[Cwlen|Nghwlen]] dan [[Albertus Magnus]], yna symudodd gydag Albertus i Brifysgol [[Paris]]. Daeth yn ddarlithydd yng Nghwlen yn 1248, a dechreuodd ysgrifennu. Bu'n darlithio ym Mharis, [[Rhufain]] a dinasoedd eraill.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|ro}}
 
{{DEFAULTSORT:Aquinas, Thomas}}
[[Categori:Athronwyr]]
[[Categori:Diwinyddion]]
[[Categori:Genedigaethau 1225]]
[[Categori:LlênLlenorion LadinLladin yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Llenorion Lladiny 13eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1274]]
[[Categori:Pobl o Lazio]]
[[Categori:Seintiau yr Eidal]]
{{eginyn Eidalwr}}
[[Categori:Llên Ladin yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Llenorion Lladin]]
[[Categori:Athronwyr]]
[[Categori:Diwinyddion]]