Manawydan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Manannán mac Lir
Llinell 6:
 
Maent yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwo mewn caer hud, ac yna mae Rhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r llygoden. Datgelir mai gwraig feichiog [[Llwyd fab Cil Coed]] yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill [[Gwawl fab Clud]] ei gamdrin gan [[Pwyll]] yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.
 
O ran ei enw mae Manawydan fab Llŷr yn cyfateb i dduw'r môr, [[Manannán mac Lir]], yn Iwerddon, sydd a chysylltiad hefyd ag enw [[Ynys Manaw]]. Fodd bynnag mae cymeriad Manawydan yn y Pedair Cainc yn bur wahanol i gymeriad Manannán mac Lir ym mytholeg Iwerddon.
 
==Llyfryddiaeth==