Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Y Gymraeg: Cywiro typos
Cymhariaeth
Llinell 11:
Bu cwymp yng nghanran poblogaeth y dinasyddion a nododd eu bont yn siarad Cymraeg, a chwympodd y nifer absoliwt hefyd. Y gwahaniaeth rhwng y ddau rif yma ydy'r cynnydd a welwyd yn y nifer o [[mewnlifiad|bobl ddwad]] neu fewnlifiad o wledydd eraill i Gymru. Canfyddwyd:
 
* '''Bu cwymp (neu "leihad") o 9%''' yng nghanran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg (o 20.8% i 19.0%, sef '''1.8 pwynt canran'''). Ond 3.5% oedd y cwymp yn nifer y siaradwyr. Mae'r ffigurau'n wahanol oherwydd twf ym mhoblogaeth Cymru. Bu cynnydd hefyd o ddau bwynt canran yn nifer y trigolion a anwyd y tu allan i'r wlad.
 
* '''Yn y De Orllewin''' y gwelwyd y '''cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr''': yn [[Sir Gaerfyrddin|Sir Gâr]], [[Ceredigion]], [[Castell-Nedd Port Talbot]] ac [[Abertawe]]. Roedd [[Cyfrifiad 2001]] wedi dangos canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn a oedd dros 65 oed, felly gellir dadlau fod rhan o'r cwymp presennol yn deillio o ostyngiad hanner canrif yn ôl yn nghanran y plant a fagwyd yn siarad Cymraeg.
 
* '''Yn y De Ddwyrain''', bu i gyfran y siaradwyr Cymraeg gwympo'n sylweddol ym [[Blaenau Gwent|Mlaenau Gwent]], [[Torfaen]] a [[Merthyr Tudful]]. Ar y llaw arall, cynyddodd cyfran y siaradwyr Cymraeg yng [[Caerffili|Nghaerffili]] a [[Sir Fynwy]] rhyw fymryn. Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn yn blant ysgol, ac roedd y niferoedd yn cynnwys llawer o blant nad oedd â rhiant a oedd yn medru Cymraeg ac nad oedd ychwaith yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Gan na fu newid chwyldroadol yn nulliau dysgu Cymraeg rhwng 2001 a 2011, mae yna le i gredu fod y cwymp yn deillio o '''newid yn y ffordd mae rhieni yn nodi sgiliau ail iaith eu plant''' yn y Gymraeg ar ffurflen y Cyfrifiad, yn hytrach na newid yn arfer iaith y boblogaeth.
 
* '''Yn y Gogledd Ddwyrain''' yn [[Sir Ddinbych]], [[Sir y Fflint]] a [[Wrecsam]], bu gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg hefyd, ond i raddau llai. Bydd ystadegau wardiau yn dangos yn gliriach a yw'r ardal hon yn dilyn patrwm cyffredinol y De Orllewin neu'r De Ddwyrain.
 
* '''Yn y Gogledd Orllewin''' yng [[Gwynedd|Ngwynedd]], [[Môn]] a [[Conwy (sir)|Chonwy]], '''roedd nifer y siaradwyr yn weddol sefydlog''' ond mae cynnydd yn y boblogaeth oherwydd y mewnlifiad yn golygu bod canran y siaradwyr wedi gostwng.
 
* '''Yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]]''', '''cynyddodd nifer y siaradwyr''' yn sylweddol, ond oherwydd twf poblogaeth y brifddinas ni fu ond cynydd bychan yn y ganran.
 
* Mae'r ystadegau'n dibynnu ar farn a thuedd y person a lenwodd y ffurflen wreiddiol, felly mae newid mewn agweddau tuag at y Cymraeg yn effeithio ar y canlyniadau, heb o reidrwydd adlewyrchu newid yn yr arferoedd ieithyddol. Ceir gwahaniaethau, hefyd, rhwng y cyfrifiadau gwahanol yn y cwestiynau a ofynwyd (ond nid am y Gymraeg rhwng 2001 a 2011). Am y rhesymau hyn, gall cymharu'r union ffigurau'n uniongyrchol fod yn gamarweiniol.
Llinell 236:
! -1.74%
|}
 
==Cymhariaeth gyda Chyfrifiad 2001==
[[Delwedd:Ffigur 1 % y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, 1911–2001.PNG|bawd|Y ganran a oedd yn siarad Cymraeg yn ôl ardal (pawb 3 oed a throsodd).]]
Yn ystod y ddegawd hon newidiodd y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg a gwelwyd cynnydd sylweddol yn awdurdodau de-ddwyrain Cymru’n arbennig ond gostwng wnaeth y canrannau yn y pedwar awdurdod a oedd â’r canrannau uchaf yn siarad Cymraeg, sef [[Ynys Môn]], [[Gwynedd]], [[Ceredigion]] a [[Sir Gaerfyrddin]].
 
Yn 2001 lleiafrif o 41% (239,000) o’r holl siaradwyr a oedd yn byw yn y pedair sir hynny lle roedd mwyafrif y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg Roedd hyn yn cymharu gyda 48% (245 mil) yn 1991. Mae dosbarthiad y siaradwyr yn amrywio’n ôl oed ac yn ôl siaradwyr rhugl.
 
Canlyniad y newidiadau hyn oedd bod llai o gymunedau lle roedd canrannau uchel yn gallu siarad Cymraeg er bod hefyd lai o gymunedau lle roedd canrannau isel iawn yn gallu siarad Cymraeg.
 
== Cyfeiriadau ==
{{reflist}}
 
{{Comisiynydd}}
{{Eginyn y Deyrnas Unedig}}
 
[[Categori:Cyfrifiadau yn y Deyrnas Unedig|2011]]