Mewnfudo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
{{Comisiynydd}}
egangu
Llinell 22:
 
=== Y diaspora Cymraeg ===
Canlyniad allfudo yw bod ‘Cymry ar wasgar’, hynny yw, bod poblogaeth o Gymry'n byw mewn gwledydd eraill a bod rhai ohonynt yn gallu siarad Cymraeg. Cymharol ychydig o wledydd sy'n cynnwys cwestiynau am ieithoedd yn eu cyfrifiadau ac os nad oes cwestiwn yn cael ei ofyn, rhaid dibynnu ar amcangyfrifon. Dyna sydd yn rhaid ei wneud yn achos Lloegr. Yn achos [[Canada]], [[Awstralia]], [[Seland Newydd]] a'r [[Unol Daleithiau]] – rhai o'r gwledydd pwysicaf o ran allfudo o Gymru – mae peth tystiolaeth ar gael o'u cyfrifiadau. Ac eithrio Lloegr, niferoedd bychain o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn y gwledydd eraill ac nid ydynt yn ddigon mawr i’w hystyried fel poblogaethau a allai effeithio’n sylweddol ar ddemograffi Cymru wrth i siaradwyr, neu eu disgynyddion, ddychwelyd i Gymru ar ryw adeg. Er hynny, mae’n werth nodi nad oes data cyfrifiad ar gael o’r [[Ariannin]] ac felly nid oes amcangyfrif cadarn o :
 
faint sy’n siarad Cymraeg yn Y Wladfa ym Mhatagonia. Mae’r amcangyfrif o 25,000 a ddyfynnir yn Ethnologue yn annhebygol o uchel. Amcangyfrif arall oedd bod o gwmpas 5,000 o siaradwyr yno yn ail ddegawd yr [[20fed ganrif]].
;Patagonia
Nid oes data cyfrifiad ar gael o’r [[Ariannin]] ac felly nid oes amcangyfrif cadarn o faint sy’n siarad Cymraeg yn Y Wladfa ym Mhatagonia. Mae’r amcangyfrif o 25,000 a ddyfynnir yn Ethnologue yn annhebygol o uchel. Amcangyfrif arall oedd bod o gwmpas 5,000 o siaradwyr yno yn ail ddegawd yr [[20fed ganrif]].
 
;UDA
Roedd 2,655 o bobl (5 oed neu drosodd) yn siarad Cymraeg gartref yn Unol Daleithiau America, yn ôl Cyfrifiad 2000 y wlad.
 
;Awstralia
Yng Nghyfrifiad 2001 Awstralia gofynnwyd am yr iaith a siaredid gartref. Dywedodd 1,060 eu bod yn siarad Cymraeg gartref (565 o wrywod, 495 o fenywod) a olygai fod mwy’n siarad Cymraeg gartref na nifer o ieithoedd brodorol Awstralia.
 
;Canada
Yn ôl Cyfrifiad 2006 Canada, roedd 1,645 o bobl oedd â’r Gymraeg yn famiaith iddynt ond dim ond 90 o bobl fyddai’n siarad Cymraeg gartref yn rheolaidd ac o’r rheini, byddai 65 ohonynt hefyd yn siarad Saesneg gartref yn rheolaidd. Roedd 2,160 o bobl yn gallu cynnal sgwrs yn Gymraeg.
 
;Seland Newydd
Roedd 840 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn Seland Newydd yn 1996, 1,158 yn 2001 a 1,077 yn 2006, yn ôl cyfrifiadau’r wlad yn y blynyddoedd hynny.
 
;Lloegr
Mae nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn Lloegr yn bwnc o ddiddordeb gan mai nhw yw'r rhan fwyaf o’r Cymry Cymraeg ar wasgar. Bu cryn ddyfalu ynghylch eu niferoedd.
 
Amcangyfrifwyd wedi Cyfrifiad 2001 bod 110 mil o bobl oedd yn preswylio yn Lloegr yn 2001 yn gallu siarad Cymraeg yn rhesymol. Byddai nifer o'r fath—ynghyd â mil arall yn yr Alban a Gogledd Iwerddon—yn golygu bod cyfanswm o fwy na 690 mil o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn y DU a bod tua 17% ohonynt yn byw y tu allan i Gymru rywle arall yn y DU. Cynhyrchodd arolygon BARB am y ddwy flynedd at ddiwedd Mehefin 2006 ar gyfer S4C amcangyfrif o 158 mil o siaradwyr Cymraeg (4 oed a throsodd) yn byw y tu allan i Gymru, gyda 153 mil ohonynt yn Lloegr.
 
==Mewnfudo i America o Gymru==