Afon Congo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
B cat
Llinell 3:
Afon yn nghanolbarth [[Affrica]] yw '''Afon Congo''', a adwaenid am gyfnod fel '''Afon Zaire'''. Mae yn 4,700 km (2,922 milltir) o hyd; yr ail-hwyaf o afonydd Affrica ar ôl [[Afon Nîl]]. Yn nalgylch y Congo y ceir yr arwynebedd ail-fwyaf o [[fforest law]] yn y byd, ar ôl dalgylch [[Afon Amazonas]]; ac mae hefyd yn ail yn y byd ar ôl yr Amazonas o ran y dŵr sy'n llifo ynddi, 41,800 m³/.
 
Caiff yr afon ei henw o hen [[Teyrnas y Congo|Deyrnas y Congo]], oedd yn yr ardaloedd o gwmpas aber yr afon. Caiff [[Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo]] a [[Gweriniaeth y Congo]] eu henwau o'r afon. Y gwledydd eraill o fewn dalgylch yr afon yw [[Gweriniaeth Canolbarth Affrica]], [[Angola]], [[Zambia]] a [[Tanzania]]. Mae'n tarddu yn ucheldiroedd Dwyrain Affrica, yn cynnwys yr afonydd sy'n llifo i [[Llyn Tanganyika|Lyn Tanganyika]] a [[Llyn Mweru]], lle tardda [[Afon Lualaba]]. Islaw Rhaeadr Boyama, caiff yr enw Afon Congo.
 
Llifa'r afon tua'r gorllewin o [[Kisangani]] islaw'r rhaeadr, yna tua'r de-orllewin heibio [[Mbandaka]], lle mae [[Afon Ubangi]] yn ymuno. Mae'n mynd heibio [[Kinshasa]], [[Brazzaville]] a [[Rhaeadrau Livingstone]] cyn cyrraedd [[Môr Iwerydd]] ger [[Muanda]].
 
[[Categori:Afonydd Affrica|Congo]]
[[Categori:Afonydd Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo|Congo]]
[[Categori:Afonydd Gweriniaeth y Congo|Congo]]
[[Categori:Afonydd AffricaGweriniaeth Ddemocrataidd y Congo|Congo]]