Rhun ap Maelgwn Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, ehangu fymryn
Llinell 2:
 
==Hanes==
Daeth Rhun yn frenin Gwynedd pan fu farw ei dad, [[Maelgwn Gwynedd]], o'r pla a elwir '[[Y Fad Felen]]' yn 547 (neu efallai [[549]]). Nid oes llawer o wybodaeth ar gael amdano, heblaw yn [[llawysgrif]]au fersiwn Gwynedd o [[Cyfraith Hywel Dda|gyfreithiauGyfraith Hywel Dda]]. Yn ôl yr hanes yma yr oedd [[Elidyr Llydanwyn]], brenin [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd, yn briod â chwaer Rhun. Hawliodd Elidir orsedd Gwynedd, ond pan ymwelodd a'r deyrnas lladdwyd ef gan wŷr [[Arfon]] yn Aber Meweddus, gerllarger [[Clynnog Fawr|Clynnog]]. I ddial ei farwolaeth, ymosodwyd ar Wynedd gan ei ddau gefnder, [[Rhydderch Hael]] o [[Ystrad Clud]] a [[Clydno Eiddin]]. Dywedir i'w byddin hwy ddiffeithio Arfon, ac i ddial am hyn arweiniodd Rhun fyddin i'r [[Hen Ogledd]] cyn belled ag [[Afon Forth]].
 
Cysylltir Rhun â'r [[Caerau Rhufeinig Cymru|gaer Rufeinig]] [[Caerhun]] yn [[Dyffryn Conwy|Nyffryn Conwy]]. Pan fu farw dilynwyd ef gan ei fab [[Beli ap Rhun|Beli]].