Brwydr Mons Graupius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Calgacus.JPG|thumb|Llun o'r 19eg ganrif o Calgacus yn traddodi ei araith cyn y frwydr.]]
 
Roedd '''Brwydr Mons Graupius''' yn frwydr yn [[yr Alban]] rhwng y Rhufeiniaid a'r [[Caledoniaid]] yn y flwyddyn [[83]] neu [[84]]. Roedd yn rhan o ymgyrch [[Gnaeus Julius Agricola]], [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|Llywodraethwr Prydain]], yn yr Alban. Ceir yr hanes gan [[Tacitus]], mab-yng-nghyfraith Agricola.
 
Roedd Agricola wedi gyrru ei lynges o'i flaen i ddychryn y brodorion, a symudodd tua'r gogledd gyda [[Lleng Rufeinig|llengfilwyr]] a milwyr cynorthwol, y rhan fwyaf ohonynt o lwyth y [[Batavii]]. Ymddengys fod tua 20,000 yn y fyddin Rufeinig, ac wynebwyd gan gan fyddin o tua 30,000 o gynghrair y llwythau Caledonaidd. Gyrroedd Agricola y milwyr cynorthwyol yn erbyn y Caledoniaid, oedd ar dir uwch. Gwthiwyd y Caledoniaid yn ôl, ac yna defnyddiodd Agricola y gŵyr meirch i selio'r fuddugoliaeth. Yn ôl Tacitus, ni fu raid i Agricola alw ar y llengfilwyr o gwbl. Dywed hefyd fod 10,000 o Galedoniaid wedi eu lladd ac mai dim ond 360 oedd colledion y Rhufeiniaid.
 
Rhoddodd Tactitus araith enwog i arweinydd y Caledoniaid, [[Calgacus]], cyn y frwydr. Mae'n gorffen:
 
:Ond nid oes dim llythau tu draw i ni, dim byd on tonnau a chreigiau, a'r Rhufeiniaid, mwy dychrynllyd na hwythau, gan mai ofer ceisio osgoi eu gormes trwy ufuddod a gostyngiad. Lladron y byd, wedi dihysbyddu'r tir trwy eu rhaib, maent yn ysbeilio'r dyfnderoedd. Os yw'r gelyn yn gyfoethog, maent yn farus,; os yw'n dlawd maent yn yssu am arglwyddiath drosto; nid yw'r dwyrain na'r gorllewin yn ddigon i'w bodloni. Yn unigryw ymysg dynion, maent yn chwennych tlodi a chyfoeth fel ei gilydd. Galwant ladrad, llofruddiaeth ac ysbeilio wrth yr enw celwyddog ymerodraeth; gwnant anialch a'i alw yn heddwch. (''Agricola'' 30).
 
Yn fuan wedyn, galwyd Agricola yn ôl i Rufain, ac olynwyd ef gan [[Sallustius Lucullus]]. Yn ôl Tacitus, ''Perdomita Britannia et statim missa''; hynny yw roedd Agricola wedi cwblhau concwest holl Brydain, ond collwyd gafael arni wedi iddo ef adael. Mae dadlau ynghylch safle'r frwydr; un safle sydd wedi ennill cefnogaeth yw bryn [[Bennachie]] yn [[Swydd Aberdeen]], ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban.