Brwydr Mons Graupius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Rhoddodd Tactitus araith enwog i arweinydd y Caledoniaid, [[Calgacus]], cyn y frwydr. Mae'n gorffen:
 
:Ond nid oes dimunrhyw llwythaulwythau tu draw i ni, dim byd ond tonnau a chreigiau, a'r Rhufeiniaid, mwy dychrynllyd na hwythau, gan mai ofer ceisio osgoi eu gormes trwy ufuddod a gostyngiad. Lladron y byd, wedi dihysbyddu'r tir trwy eu rhaib, maent yn ysbeilio'r dyfnderoedd. Os yw'r gelyn yn gyfoethog, maent yn farus; os yw'n dlawd maent yn ysu am arglwyddiaeth drosto; nid yw'r dwyrain na'r gorllewin yn ddigon i'w bodloni. Yn unigryw ymysg dynion, maent yn chwennych tlodi a chyfoeth fel ei gilydd. Galwant ladrad, llofruddiaeth ac ysbeilio wrth yr enw celwyddog ymerodraeth; gwnant anialwch a'i alw yn heddwch. (''Agricola'' 30).
 
Yn fuan wedyn, galwyd Agricola yn ôl i Rufain, ac olynwyd ef gan [[Sallustius Lucullus]]. Yn ôl Tacitus, ''Perdomita Britannia et statim missa''; hynny yw roedd Agricola wedi cwblhau concwest holl Brydain, ond collwyd gafael arni wedi iddo ef adael. Mae dadlau ynghylch safle'r frwydr; un safle sydd wedi ennill cefnogaeth yw bryn [[Bennachie]] yn [[Swydd Aberdeen]], ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban.