Ensym: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Purodha (sgwrs | cyfraniadau)
B Interwiki: + ksh:Enzym
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Triosephosphate isomerase.jpg|right|280px|thumb|"Diagram rhuban" ar gyfer yr ensym Triosffosffadisomeras (TIM).]]
Sylweddau sy'n [[catalydd|cataleiddio]] (h.y. [[cyfradd adwaith|cyflymu]]) [[adwaith cemegol|adweithiau cemegol]] mewn [[organeb]]au byw yw '''ensymau'''. Yn yr adweithiau yma, gelwir y [[moleciwl]]au ar ddechrau yr adwaith yn [[swbstrad]], a mae'r ensym yn eu trawsnewid i mewn i foleciwlau gwahanol, sef y cynnyrch, heb newid strwythur ei hun yn ystod y broses. Mae angen ensymau ar gyfer bron pob proses mewn [[bioleg cell|cell]] er mwyn iddynt weithio ar raddfa sylweddol. Gan fod ensymau'n hynod o ddetholiadol ac yn cyflymu ond ychydig o adweithiau ymysg nifer o bosibiliadau, mae'r set o ensymau mewn cell yn penderfynu [[llwybr metaboligmetabolaidd]] cynnwys y gell.
 
Yn ogystal a'u defnydd mewn systemau biolegol, defnyddir rhai ensymau yn [[ddiwydiannol]] ac yn [[meddygaeth|feddygol]]. Cynhyrchwyd gwîn, bara, caws a cwrw ers canrifoedd yn defnyddio eplesiad naturiol, ond nid tan y [[19eg ganrif]] y deallwyd fod yr adweithiau yma yn ganlyniad o actifedd catalytig ensymau. Ers hynny, mae ensymau wedi cymryd rôl bwysig mewn prosesau diwydiannol sy'n seiliedig ar adweithiau cemegol organig. Ym maes meddygaeth, defnyddir ensymau mewn [[synthesis]] [[gwrthfiotig]]au, [[diagnosis]] o rhai [[glefyd]]au ac er mwyn ceisio lladd micro-organebau sy'n achosi clefydau.