Reticwlwm endoplasmig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 14:
Mae’r '''reticwlwm endoplasmig''' neu '''RE''' yn un o'r [[organynnau isgellog]] a ddarganfyddir mewn [[cell fiolegol]] [[ewcaryotig]] . Mae’n rhwydwaith bilen estynnol o [[cisternae]] (strwythurau codennol) o fewn [[cytoplasm]] y gell sydd wedi’i uno gyda’r [[amlen niwclear]]. Mae pilen ffosffolipid y reticwlwm yn amgáu gwagle o’r cytosol, a elwir yn waglyn cisternol neu lwmen. Mae swyddogaethau’r reticwlwm endoplasmig yn ddibynnol ar y fath o reticwlwm a'r fath o gell. Mae yna dair ffurf i'r reticwlwm endoplasmig sy’n weladwy yn y rhan fwyaf o gelloedd: ''reticwlwm endoplasmig llyfn'', ''reticwlwm endoplasmig garw'' a ''reticwlwm sarcoplasmig''.<ref>''Endoplasmic reticulum: Structure and function''. Prifysgol Meddygol Texas. {{eicon en}} http://cellbio.utmb.edu/cellbio/rer1.htm</ref>
 
:Mae’r '''reticwlwm endoplasmig llyfn''' yn cynnwys nifer o ensymau pilennog, yn cynnwys nifer o ensymau sydd yn cymryd rhan yn synthesis lipidau, ocsidiad a dadwenwyno cyfansoddion estron ([[xenobioticssenobiotigion]]) fel cyffuriau. Mae ganddynt nifer o swyddogaethau metabolaidd eraill, fel rheoli crynodiad [[Calsiwm]] y gell, cymryd rhan yn metabolaeth carbohydradau a glynu derbynnyddion wrth broteinau cellbilennau. Darganfyddir RE llyfn yn nifer o wahanol fathau o gell a maent â pwrpasau gwahanol ym mhob un. Mae RE llyfn yn cynnwys tiwbynnau a fesiglau sy'n canghennu i ffurfio rhwydwaith sy’n cynyddu arwynebedd ar gyfer prosesau metabolaidd ac ar gyfer storio ensymau.
 
:Enwyd y '''reticwlwm endoplasmig garw''' oherwydd presenoldeb nifer o [[ribosom]]au ar bilen allanol y reticwlwm. Mae hyn yn rhoi ymddangosiad garw i'r RE. Mae'r ribosomau yma yn benodol yn syntheseiddio proteinau sy'n cael eu secretu gan y gell neu proteinau i'w defnyddio yn y bilen blasma a rhai organynnau cellog. Mae'r RE garw yn barhaol gyda haen allanol yr amlen niwclear, ac felly mae modd i drosglwyddo deunyddiau rhwng cnewyllyn y gell a'r rhwydwaith Reticwlwm Endoplasmig. Er nad oes pilen ddi-dor rhwng yr RE garw a'r [[organigyn Golgi]], bydd fesiglau pilennog yn trosglwyddo proteinau rhwng y ddau. Mae'r RE garw yn cydweithio â’r organigyn Golgi i gyfeirio proteinau newydd i'r llefydd cywir.<ref>Campbell, Neil A. (1996) ''Biology Fourth Edition.'' Benjamin/Cummings Publishing, pp. 120-121 ISBN 0-8053-1940-9</ref>