Epona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat |
chwaneg |
||
Llinell 3:
Roedd '''Epona''' yn dduwies [[Y Celtiaid|Geltaidd]] a addolid yng [[Gâl|Ngâl]] ac ardaloedd Celtaidd eraill. Roedd yn amddiffynnydd [[ceffyl|ceffylau]], mulod ac asynnod, ac yn dduwies ffrwythlondeb. Awgrymodd H. Hubert fod y dduwies a'i cheffylau yn arwain eneidiau'r meirw. Ceir cerfluniau o Epona trwy'r Ymerodraeth Rufeinig, y rhan fwyaf ond nid y cyfan wedi eu cysegru iddi gan Geltiaid. Dangosir y dduwies yn marchogaeth mewn llawer o'r cerfluniau.
Daw'r enw [[Galeg]] Epona, "Caseg Ddwyfol", o'r prto-Geltig *epōs (ceffyl) - cynharer "ebol" yn Gymraeg. Mae nifer o ysgolheigion wedi ei chysylltu a [[Rhiannon]] ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]]. Y dduwies gyfatebol ym mytholeg [[Iwerddon]] yw [[Macha]], duwies sofraniaeth a gysylltir â defodau'n ymwneud â cheffylau.
Efallai fod cysylltiad rhwng cwlt Epona a'r ceflun sialc o geffyl gwyn anferth a welir yn [[Uffington]], de Lloegr heddiw, yn ogystal.
[[Categori:Y Celtiaid]]
|