Charles de Gaulle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
cyfuno
Llinell 32:
== Arlywydd y Bumed Weriniaeth ==
=== Algeria ===
[[Delwedd:De Gaulle yn Algeria.jpg|bawd|De Gaulle yn datgan "''Je vous ai compris!''" yn [[Algiers]], 4 Mehefin 1958]]
{{prif|Charles de Gaulle yn Rhyfel Algeria}}
Deuddeng mlynedd wedi iddo ymddiswyddo o arwain [[Llywodraeth Ddros Dro Ffrainc]], dychwelodd Charles de Gaulle i arwain ei wlad ar ôl [[argyfwng Mai 1958]], a achoswyd gan analluogrwydd [[Trydedd Weriniaeth Ffrainc|y Drydedd Weriniaeth]] i ddatrys [[Rhyfel Algeria]] a ddechreuodd ym 1954. Croesawyd dychweliad de Gaulle gan [[Byddin Ffrainc|Fyddin Ffrainc]] a'r ''[[pied-noir|pieds-noirs]]'', setlwyr Ewropeaidd Algeria, oedd yn disgwyl iddo rhoi ei gefnogaeth dros achos [[Algeria Ffrengig]]. Ar 4 Mehefin 1958 ymwelodd yr arlywydd newydd ag Algeria ac fe'i groesawyd fel achubwr, gan ymddangos o flaen torfeydd gorawenus a datgan "''Je vous ai compris!''" ("Yr wyf wedi eich deall!").
Cafodd de Gaulle ei alw i arwain ei wlad oherwydd yr argyfwng yn [[Rhyfel Annibyniaeth Algeria|Algeria]] ym [[1958]]. Roedd nifer o'r ymsefydlwyr Ffrengig yn y wlad honno yn gwrthryfela yn erbyn llywodraeth Ffrainc am eu bod yn ofni annibyniaeth.
 
Ond yn fuan cafodd y fyddin a'r ''pieds-noirs'' eu dadrithio gan eu harweinydd newydd. Dod â therfyn i'r rhyfel oedd blaenoriaeth de Gaulle yn ystod pedair mlynedd gyntaf ei arlywyddiaeth, ac wynebodd cyfyngiadau sylweddol o bob ochr wrth geisio cyflawni'r dasg hon. Yr oedd gorchfygiad [[Brwydr Dien Bien Phu]] yn ffres yng nghof Byddin Ffrainc, ond nid oedd cadfridogion nac milwyr y rhengoedd isaf yn dymuno cilio rhag trefedigaeth Ffrengig eto. Roedd y ''pieds-noirs'' yn dymuno cadw eu statws breintiedig yn Algeria dros y boblogaeth frodorol. Yn ogystal roedd nifer o gefnogwyr gwleidyddol de Gaulle, megis [[Michel Debré]], Prif Weinidog rhwng 1959 a 1962, o blaid gadw Algeria yn rhan o Ffrainc. Ac agwedd y [[Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol (Algeria)|Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol]] (FLN) oedd i barháu i ryfela nes yr oedd annibyniaeth i weriniaeth Algeriaidd brodorol.
 
Er mwyn trechu'r cyfyngiadau hyn, defnyddiodd de Gaulle nid yn unig ei rymoedd arlywyddol ond hefydd ei fri, dylanwad, a chymeriad personol.<ref>Shennan (1993), t. 93.</ref> Gwnaeth defnydd o rethreg wladgarol ar deledu. Ar 16 Medi 1959, darlledwyd araith gan de Gaulle o [[Palas Élysée|Balas Élysée]]. Ynddi, addawodd yr arlywydd i sicrháu [[hunan-benderfyniad]] ar gyfer holl boblogaeth Algeria o fewn pedair mlynedd i gadoediad gan bob ochr yn y gwrthdaro. Rhestrodd tri dewis am ddyfodol Algeria: [[annibyniaeth]] ("ymwahaniad"), integreiddiad ("Ffranceiddio"), ac "uniad agos â Ffrainc". Ffafriodd de Gaulle y drydydd dewis, a gyda'r araith hon fe siapiodd y ddadl dros ddyfodol Algeria. Llwyddodd i greu tir canol rhwng dymuniadau'r setlwyr dros integreiddio a dymuniadau'r brodorion dros annibyniaeth.
 
Nid oedd ymateb swyddogion y fyddin yn Algeria i'r araith yn ffafriol, a dechreuant ymochri ag elfennau eithafol yng nghymuned y ''pieds-noirs'' gan alw am ddymchweliad de Gaulle. Ar 24 Ionawr 1960 cafodd streic gyffredinol ei galw yn Algiers, a dechreuodd nifer o'r fyddin gydymdeimlo â'r ''pieds-noirs'' yn ystod gwrthryfel [[Wythnos yr Atalgloddiau]]. Ar 29 Ionawr rhoddodd de Gaulle araith i amddiffyn cysyniad hunan-benderfyniad gan apelio at y fyddin a'r ''pieds-noirs''. Roedd ganddi effaith mawr ac ildiodd arweinwyr y gwrthryfel ar 31 Ionawr.
 
Wrth i realiti annibyniaeth ddod yn agosach, ar 22 Ebrill 1961 arweiniodd y Cadfridogion [[Maurice Challe|Challe]], [[Raoul Salan|Salan]], [[Edmond Jouhaud|Jouhaud]], a [[André Zeller|Zeller]] [[putsch y Cadfridogion|putsch]] yn erbyn de Gaulle gan gipio Algiers ac arestio cynrychiolwyr llywodraeth Paris. Ar 23 Ebrill condemiodd de Gaulle y putsch fel "antur ddwl ac atgas" a galwodd ar luoedd Ffrengig i aros yn ffyddlon i'w arlywyddiaeth. Methodd y putsch yn sydyn a chynyddodd poblogrwydd yr arlywydd. Rhoddodd hyn gryfder i de Gaulle yn nhrafodaethau Évian ym Mai 1961, ond oherwydd ei fynegiadau cyhoeddus niferus o'i ddymuniad i ddod â therfyn i'r rhyfel mor gynted ag oedd yn bosib, bu rhaid iddo wneud nifer o gonsesiynau i'r FLN. Ar 8 Ebrill 1962, cadarnhawyd [[cytundebau Évian]] gan 90% o bleidleiswyr yn Ffrainc fetropolitanaidd, ac ym 1962 enillodd Algeria ei hannibyniaeth.
 
=== Diwrnod y Siacal ===
Llinell 51 ⟶ 59:
 
Roedd ei ewythr, hefyd o'r enw [[Charles de Gaulle (llenor)|Charles de Gaulle]], yn fardd [[Llydaweg]] ac yn un o arloeswyr [[Pan-Geltigiaeth]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Ffynonellau ==
* Cook, D. ''Charles de Gaulle: A Biography'' (Llundain, Secker & Warburg, 1984).
* Crozier, B. ''De Gaulle: The Statesman'' (Llundain, Eyre Methuen, 1973).
* De Gaulle, C. ''Memoirs of Hope: Renewal 1958–62, Endeavour 1962–'' (Llundain, Weidenfeld and Nicolson, 1971). Cyfieithwyd gan Terence Kilmartin.
* Fenby, J. ''The General: Charles de Gaulle and the France He Saved'' (Llundain, Simon & Schuster, 2010).
* Horne, A. ''A Savage War of Peace: Algeria 1954–1962'' (Efrog Newydd, New York Review Books, 2006).
* Jackson, J. ''Charles de Gaulle'' (Llundain, Cardinal, 1990).
* Pickles, D. 'General de Gaulle and Algeria', ''The World Today'', 17(2) (1961) pp.&nbsp;49–58.
* Schoenbrun, D. ''The Three Lives of Charles de Gaulle'' (Llundain, Hamish Hamilton, 1966).
* Shennan, A. ''De Gaulle'' (Llundain, Longman, 1993).
* Sulzberger, C. L. ''The Test: De Gaulle and Algeria'' (Llundain, Rupert Hart-Davis, 1962).
 
{{dechrau-bocs}}