Mathrafal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Credir i Fathafarn gael ei sefydlu fel prif lys Powys ar ôl i [[Pengwern|Bengwern]] gael ei chipio gan y brenin [[Offa, brenin Mercia|Offa]] o [[Mercia|Fercia]] yn y [[7fed ganrif]], digwyddiad a goffeir yn y cerddi enwog sy'n rhan o'r cylch sy'n adnabyddus dan yr enw '[[Canu Llywarch Hen]]'. Mae Mathafarn yn gorwedd 7 milltir yn unig o [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]].
 
Cyfeirir at Fathrafal ym [[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] am y flwyddyn [[1212]]. Roedd yr arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] lleol [[Robert Vieuxpont]] wedi codi [[castell mwnt a beili]] ar gongl safle'r hen lys. Arweiniodd [[Llywelyn Fawr]] gyrch yn ei erbyn. Ni llwyddwyd ilwyddwyd ddinistrio'r castell ond cafodd ei ddifetha'n fwriadol wedyn ar orchymyn y brenin [[John o Loegr]], a ofnai iddo syrthio i ddwylo'r [[Cymry]]. Ar ôl hynny symudodd y tywysog [[Gwenwynwyn ab Owain]] o Bowys, deilaiddeiliad John, ei brif lys o Fathrafal i'r Trallwng.
 
Cedwir yr enw 'Mathrafal' ar fferm fawr fymryn i'r gogledd o'r safle. Ceir yn ogystal y llecyn 'Ffridd Mathrafal' tua milltir i'r gorllewin, ar lethr bryn a goronir gan hen [[bryngaer|fryngaer]].
 
Ceir sawl cyfeiriad at Fathrafal yng ngwaith beirdd Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn arbennig [[Beirdd y Tywysogion]]. Roedd y bardd enwog [[Cynddelw Brydydd Mawr]] yn gyfarwydd â Mathrafal a'i lys. Yn wir mae'n etihafeithaf posibl ei fod yn trigo yno neu yn y cylch.
 
===Ffynonellau===