Gruffydd Robert: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 7:
 
==Ei ramadeg==
Cyhoeddwyd rhan gynta'r gramadeg fel ''[[Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg]]'' ym Milan ar Ddydd Gŵyl Ddewi [[1567]]. Mae'r ail ran, ar y rhannau ymadrodd (''gyfiachyddiaeth''), yn ddi-ddyddiad, ond yn debyg o fod wedi ymddangos ym [[1584]] neu [[1585]]. Mae'r ddwy ran gyntaf yn defnyddio ffurf ymgom mewn [[gwinllan]] rhwng ddau gyfaill, Gr. (hynny yw, Gruffydd ei hun) a Mo. (hynny yw, Morys Clynnog). Dyw'r drydedd ran (ar ''donyddiaeth'') ddim yn defnyddio'r un ffurf, efallai am fod Morys Clynnog wedi boddi tua [[1581]] a Borromeo, y cyfeirir ato fel ''meistr'' neu ''arglwydd'' yn y gramadeg, wedi marw ym [[1584]] hefyd. Mae'r rhannau eraill yn fyrrach: mae'r bedwaredd ran yn trafod mesurau cerdd dafod, y bumed ran yn rhoi casgliad o gerddi, a chynnwys y chweched ran yw dechrau cyfieithiad ''[[De Senectute]]'' gan [[Cicero]].
 
==Llyfrau eraill==