9,572
golygiad
Addbot (Sgwrs | cyfraniadau) B (Bot: Migrating 50 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q26800 (translate me)) |
|||
| maint_delwedd = 225px
| neges_delwedd =
| statws = LC
| system_statws = IUCN3.1
| regnum = [[Animalia]]
| phylum = [[Chordata]]
| enw_deuenwol = ''Sterna paradisaea''
| awdurdod_deuenwol = [[Erik Pontoppidan|Pontopiddan]], 1763
| map_dosbarthiad = Sterna paradisaea distr mig.png
| maint_map_dosbarthiad = 250px
| neges_map_dosbarthiad = Dosbarthiad Morwennol y Gogledd
}}
Mae '''Morwennol y Gogledd''' (''Sterna paradisaea'') yn aelod o deulu'r Sternidae, y [[Morwennol|morwenoliaid]]. Mae'n teithio hyd at 19,000 km (12,000 o filltiroedd) o'r [[Arctig]] i'r [[Antarctig]], sy'n golygu ei bod yn gweld mwy o olau dydd nag unrhyw anifail arall.
Mae Morwennol y Gogledd yn nythu o'r Arctig (yn [[Ewrop]], [[Asia]] a [[Gogledd America]] i lawr cyn belled i'r de a [[Llydaw]] yn Ewrop a chyn belled a [[Massachusetts]] yn [[Unol Daleithiau America]]. Ar ôl nythu mae'n cychwyn tua'r de. Mae enghraifft o un aderyn a fodrwywyd fel cyw ar [[Ynysoedd Farne]] yn [[Northumberland]] yn [[Lloegr]] yn cyrraedd [[Melbourne]], [[Awstralia]] yn hydref yr un flwyddyn, taith o 22,000 km (14,000 milltir) mewn tri mis. Amcangyfrifir fod pob Morwennol y Gogledd, ar gyfartaledd, yn teithio yn ystod ei bywyd bellter yr un faint a'r pellter o'r ddaear i'r lleuad.
Mae'n nythu gyda'i gilydd,
Gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, gyda llwyd ar y cefn ac ar ran uchaf yr adenydd. Mae'r pig yn goch tywyll, yn wahanol i'r [[Morwennol Gyffredin|Forwennol Gyffredin]] sydd a phig mwy oren. Mae gan Forwennol y Gogledd gynffon hirach a choesau byrrach hefyd. Mae rhwng 33 a 39cm o hyd a 66-77cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf mae cap du ar y pen, ond yn y gaeaf mae'r talcen yn troi'n wyn.
|