Gorsedd y Beirdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ers yr Eisteddfod yn [[1819]] yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], mae'r Orsedd wedi dod yn fwyfwy cyfystyr â seremonïau'r [[Eisteddfod Genedlaethol]], yn arbennig seremoniau'r Cadeirio, Y coroni a'r Fedal Ryddiaeth. Mae ambell i [[Archdderwydd]] wedi defnyddio ei safle i wneud datganiadau gwleidyddol.
 
Gwaith dychymyg [[Iolo Morgannwg ]] yw'r Orsedd. Bathodyn yr Orsedd yw y [[Nod Cyfrin]] sydd ar holl regalia'r Orsedd. Ymhlith y rhai sy'n cael eu gwisgo gan yr Archdderwydd mae coron, dwyfronneg a teyrnwialen. Yn perthyn i'r orsedd hefyd y mae [[Banner yr Orsedd]], [[Cleddyf yr Orsedd]] a'r [[Hanner Cleddyf]]. Bydd cleddyf yr orsedd yn cael ei defnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremoniau'r eisteddfod. Cleddyf heddwch yw hi a dyna pam na fydd byth yn cael ei thynnu yr holl ffordd o'r wain.
 
Cyflwynir y [[Corn Hirlas]] i'r [[archdderwydd]] gan un o famau'r fro i estyn croeso'r ardal i'r eisteddfodf. Yn hanesyddol roedd yr hen gorn yfed yn llys y tywysogion yn estyn croeso i'r gwahoddedigion i'r llys. Bydd un o ferched yr ardal yn rhoi [[Aberthged]] i'r Archdderwydd sef ysgyb o ŷd, gwair a blodau'r mae yn arwydd o roddion Duw i'r ardal.
 
Mae tri grwp o aelodau yn perthyn i'r orsedd ac mae gan bob grŵp ei liw. Daw'r [[Archdderwydd]] bob amser o blith y rhai sy'n gwisgo gwyn. gellir dod yn aelod drwy lwyddo mewn arholiad, cael eich dewis i ddod yn aelod neu drwy ennill y gadair, y goron neu'r Fedal Ryddiaeth mewn Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal ag ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r Orsedd yn cyfarfod yng [[Cylch yr Orsedd|Nghylch yr Orsedd.