Tŷ Hywel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

adeilad swyddfeydd Senedd Cymru
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|dde|Tŷ Hywel Adeilad ym Mae Caerdydd a'i ddefnyddir gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Gy...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:08, 5 Tachwedd 2014

Adeilad ym Mae Caerdydd a'i ddefnyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw Tŷ Hywel. Dyma fan cyfarfod wreiddiol y Cynulliad cyn adeiladu'r Senedd. Saif yr adeilad hŷn wrth gefn yr adeilad fwy diweddar ac mae pontydd gwydr yn cysylltu'r naill â'r llall. Codwyd yr adeilad ym 1993 i gynlluniau'r penseiri Holder Mathias Alcock;[1] Tŷ Crughywel oedd ei enw gwreiddiol, ar ôl gwleidydd Geidwadol, yr Arglwydd Crughywel. Yn 2008 fe'i ailenwyd ar ôl Hywel Dda.

Tŷ Hywel

Mae'r adeilad bellach yn cynnwys swyddfeydd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Mae hen siambr y Cynulliad bellach yn cynnal dadleuon gan bobl ifanc ac yn dwyn yr enw Siambr Hywel.

Cyfeiriadau

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 268