Abdullah ibn al-Mu'tazz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Pentrefi a phentrefannau newydd
Llinell 1:
[[Bardd]] [[Arabeg]] [[Oesoedd Canol|canoloesol]] oedd '''Abdullah ibn al-Mu'tazz''' ([[861]] - [[908]]). Roedd yn aelod o'r frenhinllin [[Abbasid]], [[califf]]iaid [[Baghdad]].
 
Cafodd ei eni yn [[Samarra]] (yng ngogledd [[Irac]] heddiw), yn or-or-ŵyr i'r califf mawr [[Harun al-Rashid]]. Roedd yn gyfnod o gynllwyniau yn y llys brenhinol a phan lofruddiwyd ei dad ffoes yr al-Mu'tazz ifanc i [[Mecca|Fecca]] am noddfa gyda'i nain. Dychwelodd i Faghdad a thyfodd i fyny i fod yn llenor disglair ac ysgolhaig llenyddol, gan osgoi gwleidyddiaeth y llys. Ond roedd rhai pobl eisiau iddo fod ar yr orsedd i geisio rhoi diwedd ar yr ansefydlogrwydd yn y deyrnas. Cytunodd al-Mu'tazzi yn y diwedd, yn erbyn ei ewyllys, yn 908. Rheolodd am ddiwrnod a noson yn unig cyn ffoi am ddiogelwch. Cafodd ei ddal a'i lindagu.<ref name="Udhari 1975">G.B.H. Wightman ac A.Y. al-Udhari (cyf.), ''Birds Through a Ceiling of Alabaster[:] Three Abbasid poets'' (Penguin, Llundain, 1975).</ref>
 
Roedd yn fardd medrus a edmygid yn fawr gan ei gyfoeswyr. Ysgrifennodd astudiaeth ar [[llenyddiaeth Arabeg|farddoniaeth Arabeg glasurol]], y ''Kitab al-Badi''. Yn ei gerddi mae crefft al-Mu'tazz yn dwyllodrus o syml. Mae'n canolbwyntio ar gyfuno delweddau trawiadol â metaffor annisgwyl. Mwynheai fywyd i'r eithaf a does ganddo ddim cywilydd mewn canu pleserau'r cnawd a gwin, a gwneud hynny yn y modd mwyaf soffistigedig, bydol a chraff. Eironi a llygad am harddwch a lliw sy'n nodweddu ei farddoni.<ref>G.B.H. Wightman ac A.Y. al-name="Udhari (cyf.), ''Birds Through a Ceiling of Alabaster[:] Three Abbasid poets'' (Penguin, Llundain, 1975).<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 15:
[[Categori:Marwolaethau 908]]
[[Categori:Ysgolheigion Arabeg]]
 
 
{{eginyn llenor}}
 
{{Authority control}}