A. H. Dodd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau |
Awdurdod |
||
Llinell 1:
Hanesydd Cymreig oedd yr Athro '''Arthur Herbert Dodd''' ([[1891]] - [[21 Mai]] [[1975]]), a arbenigai yng nghyfnod y [[Tuduriaid]] a'r [[Stiwardiaid]] yng [[Cymru|Nghymru]] ac yn hanes y [[Chwyldro Diwydiannol]].
==Bywgraffiadau==
Ganed Dodd yn [[Wrecsam]], lle roedd ei dad Charles yn brifathro. Roedd tueddiadau academaidd yn y teulu; daeth un o'i dri brawd, [[C. H. Dodd]], i amlygrwydd fel ysgolhaig yn arbenigo ar y [[Testament Newydd]]. Aeth i Ysgol Ramadeg Wrecsam ac yna i [[Coleg Newydd, Rhydychen|Goleg Newydd, Rhydychen]] ym [[1911]]. Wedi graddio mewn [[hanes]], ymunodd a chorfflu meddygol y fyddin (RAMC) ym [[1914]].
Penodwyd ef yn ddarlithydd yng [[Prifysgol Bangor|Ngholeg Prifysgol Bangor]] ym [[1919]], ac ym [[1930]] dilynodd Syr [[John Edward Lloyd]] fel Athro Hanes yno. Bu hefyd yn dysgu yn yr Adran Efrydiau Allanol a [[Cymdeithas Addysg y Gweithwyr|Chymdeithas Addysg y Gweithwyr]]. Ymddeolodd ym [[1958]], ond bu'n gweithio wedyn fel curadur Amgueddfa Bangor ac yn dysgu yn y [[Coleg Normal, Bangor|Coleg Normal]].
==Llyfrau==
Llinell 23:
[[Categori:Marwolaethau 1975]]
[[Categori:Pobl o Wrecsam]]
{{Authority control}}
|