Abu al-Faraj al-Isfahani: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 3:
Yr oedd '''Abu al-Faraj al-Isfahani''', neu '''Abu-l-Faraj''' neu '''`Ali ibn al-Husayn ul-Isbahani''' ([[897]]-[[967]]) yn ysgolhaig o dras [[Arabiaid|Arabaidd]] a aned yn [[Iran]] ([[Persia]]). Roedd yn perthyn i lwyth y [[Quraysh]] ac yn ddisgynydd uniogyrchol i'r [[caliph]] [[Umayyad]] olaf, [[Marwan II]]. Roedd ganddo felly gysylltiad â rheolwyr Umayyad de [[Sbaen]], ac ymddengys iddo lythyru â nhw ac anfon rhai o'i weithiau iddynt. Ei waith enwocaf yw'r [[blodeugerdd|flodeugerdd]] ''[[Kitab al-Aghani]]'' (''Llyfr y Caneuon'').
 
Fe'i ganed yn [[Isfahan]], de-orllewin Persia, ond treuliodd ei ieuenctid yn [[Baghdad]] ac astudiodd yno. Daeth yn enwog am ei wybodaeth o hynafiaethau Arabaidd cynnar.
 
Treuliodd weddill ei oes mewn sawl rhan o'r [[byd Islamaidd]], yn [[Aleppo]] ([[Syria]]) gyda'i llywodraethwr [[Brenhinllin Hamdanid|Sayf ad-Dawlah]] (cyflwynodd ''Llyfr y Caneuon'' iddo), yn [[Ray (Iran)|Ray]] gyda'r [[vizier]] [[Buwayhid]] [[Ibn 'Abbad]], ac mewn lleoedd eraill.
 
Er iddo gyfansoddi [[barddoniaeth]], ynghyd â blodeugerdd o gerddi ar [[mynachlog|fynachlogydd]] [[Mesopotamia]] a'r [[Aifft]], a llyfr achau, mae'n enwog yn bennaf am y ''Kitab al-Aghani''.
Llinell 23:
[[Categori:Marwolaethau 967]]
[[Categori:Persiaid]]
 
{{Authority control}}