Aeschulos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
cyfeiriadau
Awdurdod
Llinell 1:
Dramodydd Geoegaidd oedd '''Aeschulos''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: {{Hen Roeg|'''Αἰσχύλος'''}}, [[525 CC]]/[[524 CC]] - [[456 CC]]). Ef oedd y cyntaf o dri trasiedydd mawr [[Athen]]; dilynwyd ef gan [[Soffocles]] ac [[Euripides]].
 
Ganed ef yn 525 neu 524 CC yn [[Eleusis]], tref fechan rhyw 30 km i'r gogledd-orllewin o Athen. Yn 490 CC, ymladdodd Aeschulos a'i frawd Cynegeirus yn erbyn y [[Persia]]id ym [[Brwydr Marathon|Mrwydr Marathon]]. Lladdwyd Cynegeirus yn y frwydr. Efallai iddo hefyd ymladd ym [[Brwydr Salamis|Mrwydr Salamis]] ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ond nid oes prawf o hyn, er iddo ddisgrifio'r ymladd yn fyw yn ei ddrama ''Y Persiaid''.
 
Teithiodd Aeschulos i [[Sicilia]] unwaith neu ddwy yn y 470au CC, ar wahoddiad [[Hieron]], teyrn [[Syracuse]]. Dychwelodd i Sicilia yn 458 CC, a bu farw yno, yn ninas [[Gela]], yn 456 neu 455 BC. Yn ôl un chwedl. fe'i lladdwyd pan gredodd [[eryr]] mai carreg oedd ei ben moel, a gollwng [[crwban]] arno.
 
Ar garreg ei fedd, rhoddwyd arysgrif oedd yn coffáu ei wrhydri fel milwr yn hytrach na'i fri fel dramodydd:
Llinell 43:
[[Categori:Marwolaethau 456 CC]]
[[Categori:Atheniaid]]
 
{{Authority control}}