Daniel ap Llosgwrn Mew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Yr oedd '''Daniel ap Llosgwrn Mew''' (fl. [[1170]] - [[1200]]) yn fardd llys yng [[teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] yn chwarter olaf y [[12fed ganrif]]. Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goroesi, ond roedd yn un o gerddi mwyaf poblogaidd o waith [[Beirdd y Tywysogion]] yn yr oesoedd canlynol, a barnu wrth nifer y copïau a geir yn y [[llawysgrifau Cymreig|llawysgrifau]].<ref name="ReferenceA">Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Daniel ap Llosgwrn Mew'.</ref>
 
==Bywgraffiad==
Ni wyddys odid dim am fywyd y bardd ar wahân i'r ychydig y gellir casglu o dystiolaeth yr unig gerdd o'i waith sydd ar glawr. Mae enw ei dad, Llosgwrn Mew, ymhlith y rhyfeddaf o'r llysenwau Cymraeg sy'n britho hanes [[Yr Oesoedd Canol yng Nghymru|Cymru'r Oesoedd Canol]] (ystyr arferol y gair [[Cymraeg Canol]] ''llosgwrn'' yw "cynffon"; mae ystyr ''mew'' yn ansicr). Bron y cwbl y gellir dweud am y bardd â sicrwydd yw ei fod yn fardd mewn un o lysoedd Gwynedd a bod y brenin [[Owain Gwynedd]] ymhlith ei noddwyr.<ref>Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Daniel ap Llosgwrn Mew'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Cerddi==
Ceir y testun cynharaf o [[marwnad|farnwad]] Daniel ap Llosgwrn Mew i Owain Gwynedd yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] yn llaw gŵr o [[Abaty Ystrad Fflur]] (tua [[1300]]).<ref>Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Daniel ap Llosgwrn Mew'.<name="ReferenceA"/ref> Mae'n un o dair marwnad i Owain sydd ar glawr ([[Cynddelw Brydydd Mawr]] a [[Seisyll Bryffwrch]] piau'r ddwy arall). Mae'n bosibl fod y bardd wedi canu'r farwnad yn angladd Owain Gwynedd yn [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] ar ddiwedd Tachwedd, [[1170]]. Ynddi mynega'r bardd ei ofid am golli'r brenin dawnus a nerthol hwnnw a'i bryder am y dyfodol ar ei ôl. Ceir nodyn personol iawn yn y mynegiant sy'n gosod y farwnad hon ochr yn ochr â marwnad enwog [[Gruffudd ab yr Ynad Coch]] i [[Llywelyn Ein Llyw Olaf|Lywelyn]] yn 1282/83. Mae'r gerdd yn cloi ar nodyn beiddgar iawn gyda'r bardd yn datgan y byddai'n barod i geryddu Duw ei hun am ddwyn Owain, pe bai'n bosibl:
 
:A nu bei gallwn ymgerydd—â Duw
:Ydd oedd imi ddefnydd.<ref>Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Daniel ap Llosgwrn Mew'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 25:
[[Categori:Marwolaethau'r 1200au]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
 
{{Authority control}}