Ebenezer Thomas (Eben Fardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cyswllt uniongyrchol i'r nod
Awdurdod
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Ganed Ebenezer Thomas gerllaw [[Llangybi, Gwynedd|Llangybi]] yn [[Eifionydd]], yn fab i wehydd. Addysgwyd ef yn [[Llanarmon]], Llangybi ac [[Abererch]]. Pan fu farw ei frawd, Evan, oedd yn cadw ysgol yn Llangybi, cymerodd ofal yr ysgol yn 1822. Daeth i adnabod beirdd amlwg y cylch, [[Robert ap Gwilym Ddu]] a [[Dewi Wyn]], a dechreuodd farddoni ei hun. Yn [[1824]] enillodd gadair Eisteddfod Powys yn [[y Trallwng]] gydag awdl ''Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid''. Yn [[1825]] aeth i gadw ysgol yn Llanarmon, ac yn [[1827]] aeth i [[Clynnog Fawr|Glynnog Fawr]]. Yn [[1830]] priododd Mary Williams, Clynnog, a chawsant bedwar o blant.
 
Enillodd wobr yn Eisteddfod Lerpwl yn [[1840]] gydag awdl ''Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'', a chyhoeddodd yr awdl honno a ''Dinystr Jerusalem'' yn [[1841]]. Yn 1858 enillodd yn Eisteddfod Llangollen gydag awdl ''Brwydr Maes Bosworth''.
 
Bu'n feirniad mewn nifer fawr i eisteddfodau, ac ystyrid ef yn un o feirdd pwysicaf ei gyfnod. Yn [[Eisteddfod]] [[Aberffraw]] yn [[1849]] bu helynt pan enillodd [[Morris Williams (Nicander)]] y wobr am ei [[awdl]] ''Y Greadigaeth'', er bod Eben Fardd eisiau rhoi'r wobr i awdl arall gan [[William Ambrose (Emrys)]]). Cyfansoddodd nifer o emynau hefyd. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Clynnog.
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 26:
[[Categori:Marwolaethau 1863]]
[[Categori:Pobl o Eifionydd]]
 
{{Authority control}}