Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Edmund Hyde Hall"

Ychwanegwyd 21 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
B
(Awdurdod)
Ymddengys fod y cysylltiad Cymreig hwnnw wedi ennyn chwilfrydedd Edmund Hyde Hall at [[Cymru|Gymru]]. Teithiodd o Jamaica i [[Lloegr|Loegr]] yn llanc ac ymddengys ei fod wedi treulio cyfnod yn ysgol [[Harrow]]. Ymwelodd â Chymru am y tro cyntaf tua'r flwyddyn 1795 neu 1796. Yn [[Llandygai]], ger [[Bangor]], y dechreuodd ar ei waith topograffyddol mawr ''A Description of Caernarvonshire''. Mae hynny - a'r ffaith ei fod yn mynd i gryn drafferth i sgwennu achau'r teulu - yn awgrymu fod ganddo gysylltiad o ryw fath â theulu'r [[Castell Penrhyn|Penrhyn]], ond ni wyddom fwy na hynny. Roedd gan deulu'r Penrhyn diroedd eang yn Jamaica hefyd, sy'n ategu'r posiblrwydd o gysylltiad rhyngddynt a theulu Hyde Hall.
 
Ymddengys iddo ddychwelyd yn 1809 ac ymsefydlu dros dro yn ninas Bangor. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yn teithio o gwmpas Sir Gaernarfon yn hel deunydd at ei lyfr. Mae tri o'r llythyrau a ysgrifennodd o Fangor yn dangos ei fod yn adnabod yr hynafiaethydd lleol [[Paul Panton]] o Fôn.
 
Mae yna fwlch llwyr yn ein gwybodaeth am yr awdur ar ôl ei gyfnod yng Nghymru. Cafodd danysgrifiadau i'r llyfr arfaethedig, yn cynnwys Paul Panton, [[William Alexander Madocks|William Madocks]] (sefydlydd [[Tremadog]]) a'r geiriadurwr [[William Owen Pughe]], ond methiant fu'r brosiect. Ymddengys fod yr awdur wedi syrthio ar amser caled. Bu farw yn ddibriod ac unig yn [[Dulyn|Nulyn]] ar yr 17eg o Hydref 1824.
 
==Ei Ddisgrifiad o Sir Gaernarfon==
Er na chyhoeddwyd gwaith Hyde Hall tan 1952, dros 140 o flynyddoedd ar ôl ei orffen, ysytyrir ''[[A Description of Caernarvonshire]]'' yn gampwaith o'i fath sy'n ffynhonnell werthfawr i'r hanesydd. Ceir ynddo ddarlun uchelgeisiol o bob agwedd ar yr hen sir; ei hanes, ei thirlun ei heconomi ayyb, ynghyd â disgrifiad manwl o bob plwyf sy'n cynnwys mapiau gwerthfawr o'r ffyrdd tyrpeg newydd. Doedd yr awdur ddim yn gyfoethog ac ymwelodd â'r rhan fwyaf o'r lleoedd ar droed, gan drampio trwy'r sir. Mae'r gwaith yn arbennig o bwysig am ardaloedd [[Arllechwedd]] ac [[Arfon]], heb fod nepell o Fangor. Ymfalchiai'r awdur yn ei dras Cymreig ond ni fedrai'r iaith; roedd hyn yn embaras iddo ond llwyddodd er hynny i ennill cyfeillgarwch nifer o bobl leol.
 
Cyhoeddwyd ei ''opus magnum'', chwedl yntau, yn 1952 gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.
[[Categori:Llenorion Saesneg]]
[[Categori:Marwolaethau 1824]]
 
{{Authority control}}
362,341

golygiad