Einion Wan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Yr oedd '''Einion Wan''' (fl. tua [[1210]] - [[1245]]) yn un o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] a gysylltir â theyrnasoedd [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[teyrnas Powys|Phowys]] yn ail chwarter y [[13eg ganrif]].<ref name="ReferenceA">Peredur I. Lynch (gol.), 'Gwaith Einion Wan'.</ref>
 
==Bywgraffiad==
Ni wyddys dim am fywyd y bardd ac eithrio'r hyn y gellir ei gasglu o dystiolaeth y chwech gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Mewn canlyniad y cwbl y medrem ddweud â sicrwydd yw ei fod wedi canu i [[Llywelyn Fawr|Lywelyn Fawr]] a'i feibion [[Dafydd ap Llywelyn|Dafydd]] a [[Gruffudd ap Llywelyn|Gruffudd]] yng Ngwynedd tua diwedd ei deyrnasiad ac i'r tywysog [[Madog ap Gruffudd Maelor]] o Bowys tua'r un adeg. Gan fod cyfran sylweddol o'i waith ar goll ni ellir dweud yn bendant ei fod yn frodor o un o'r teyrnasoedd hynny, er bod hynny'n ymddangos yn dra thebygol. Ar un adeg ceisiai rhai ysgolheigion uniaethu Einion Wan a'i gyfoeswr [[Einion ap Gwgon]], ond ni dderbynnir hynny bellach. Dichon fod yr epithet ''(g)wan'' yn cyfeirio at eiddilwch ei gorff.<ref>Peredur I. Lynch (gol.), 'Gwaith Einion Wan'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Cerddi==
Chwech o gerddi gan Einion Wan sydd wedi goroesi, a cheir y testunau cynharaf yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] a [[Llyfr Coch Hergest]]. Canodd gerdd o [[canu mawl|fawl]] ar ffurf cadwyn o [[englyn]]ion i Lywelyn Fawr, sydd efallai i'w ddyddio i'r cyfnod cyn [[1215]]-[[1218]]. Ceir cerddi mawl i Ddafydd ap Llywelyn a'i frawd Gruffudd yn ogystal. Mae'r gerdd i Ddafydd yn enghraifft o gerdd [[dadolwch]], sy'n ceisio cymod rhwng y bardd a'i noddwr. Ym Mhowys, canodd gerdd o foliant i'r tywysog Madog ap Gruffudd, un o ddeiliaid mwyaf ffyddlon Llywelyn Fawr.<ref>Peredur I. Lynch (gol.), 'Gwaith Einion Wan'.<name="ReferenceA"/ref>
 
Cedwir dwy [[marwnad|farwnad]] nodedig o waith y bardd.<ref>Peredur I. Lynch (gol.), 'Gwaith Einion Wan'.<name="ReferenceA"/ref> Mae un ohonynt yn farwnad i Fadog ap Gruffudd a'r llall yn farnwad i Lywelyn Fawr ei hun. Mae marwnad Llywelyn ar ffurf cadwyn o englynion, ac ar sail hynny mae modd awgrymu iddi gael ei ganu o flaen gosgordd y tywysog, efallai yn ei brif lys yn [[Aberffraw]] gan fod pwyslais yn y canu ar gysylltiadau Llywelyn â [[Môn]] a'r golled i wŷr yr ynys ar ôl Llywelyn. Dyma un o'r englynion:
 
:Iorferth esillydd! Arfogion——ei hil!
:Hael gynnil gynrheinion!
:Gwae ni, Wynedd orchorddion,
:Gweled llawr ar llyw mawr Môn.<ref>Peredur I. Lynch (gol.), 'Gwaith Einion Wan'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 29:
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]
 
{{Authority control}}