Gruffudd ab yr Ynad Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 1:
Bardd llys yng [[Teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] yn ail hanner y [[13eg ganrif]] oedd '''Gruffudd ab yr Ynad Coch''' (fl. [[1277]] - [[1283]]), un o'r olaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur un o'r [[marwnad]]au enwocaf yn yr iaith [[Gymraeg]], a ganodd i alaru a choffáu [[Llywelyn ap Gruffudd]] (Llywelyn Ein Llyw Olaf), [[Tywysog Cymru]].<ref name="Caerdydd 1996">''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Caerdydd, 1996).</ref>
 
==Cefndir==
Ychydig a wyddys am fywyd personol y bardd. Hanai o deulu o [[Cyfraith Hywel Dda|gyfreithwyr Cymreig]] a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â [[Llanddyfnan]] ym [[Môn]] ond yn wreiddiol o ardal [[cwmwd]] [[Uwch Gwyrfai]] yn [[Arfon]]. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd [[Einion ap Madog ap Rhahawd]] (fl. [[1237]]), a ganodd i [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr]], tad Llywelyn Ein Llyw Olaf. Mae'n bosibl mai Madog Goch Ynad oedd tad Gruffudd ab yr Ynad Coch; mae'n bosibl ei fod yn dal tir ym Môn yn ddiolch am ei wasanaeth fel [[ynad]] yn llywodraeth Gwynedd.<ref>''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (name="Caerdydd, 1996).<"/ref>
 
==Cerddi==
Erys ar glawr saith [[awdl]] ac un [[englyn]] proest o waith Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae'r mwyafrif o'i waith ar gael yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], tra bo peth o'i waith ar glawr yn [[Llyfr Coch Hergest]]; colofnau 1417-1418. Canu crefyddol yn null arferol y [[Gogynfeirdd]] yw chwech o'r awdlau.<ref>''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (name="Caerdydd, 1996).<"/ref>
 
Mae'r seithfed awdl yn [[marwnad|farwnad]] i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1282 neu'n gynnar yn Ionawr 1283 (lladdwyd Llywelyn uwchlaw [[Afon Irfon]] ar [[11 Rhagfyr]], [[1282]]). Ar sail cyfeiriad at ddau le sydd fel arall yn ddi-nod yn llinell 48, mae lle i gredu mai yng [[Castell y Bere|Nghastell y Bere]], [[Meirionnydd]], y canwyd yr awdl farwnad hon yn gyntaf. Syrthiodd y Bere i'r Saeson ar 25 Ebrill 1283, felly rhaid fod Gruffudd wedi canu'r awdl cyn hynny.<ref>''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (name="Caerdydd, 1996).<"/ref>
 
Yn y gerdd enwog hon mae'r galar am golli Llywelyn a'r pryder am ddyfodol Gwynedd a Chymru yn cael ei fynegi mewn termau dwys a phersonol ar y naill law a chosmig a chynhwysfawr ar y llaw arall. Mae natur ei hun wedi'i hysgwyd i'w seiliau:
Llinell 28:
 
*Ceir testun hwylus o destun 'Marwnad Llywelyn ap Gruffudd' mewn orgraff ddiweddar yn y gyfrol ''[[Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg]]''.
 
*[http://cy.wikisource.org/wiki/Ar_Farwolaeth_Llywelyn_yr_Ail ''Ar Farwolaeth Llywelyn yr Ail'']: darn o fersiwn Cymraeg Diweddar o'r gerdd ar Wicisource.
 
Llinell 44 ⟶ 43:
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
 
{{Authority control}}