Gwgon Brydydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Un o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] a ganai ar ddechrau'r [[13eg ganrif]] oedd '''Gwgon Brydydd''' (fl. tua [[1200]]-[[1220]]).<ref name="ReferenceA">R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Gwgon Brydydd'.</ref>
 
==Cefndir==
Ni wyddys dim am Wgon ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn yr unig gerdd o'i waith i oroesi, sy'n [[canu mawl|fawl]] i [[Llywelyn ab Iorwerth]] (Llywelyn Fawr). Awgrymodd yr ysgolhaig [[J. Lloyd-Jones]] ei fod yn dad i [[Einion ap Gwgon]], un arall o Feirdd y Tywysogion a ganodd i Lywelyn Fawr. Mae'r teitl '[[prydydd]]' yn dangos fod Gwgon yn mwynhau statws uchel yng nghyfundrefn y beirdd ac yn [[bardd llys|fardd llys]] cydnabyddedig.<ref>R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Gwgon Brydydd'.<name="ReferenceA"/ref>
 
Tadogir 'Araith Wgon', un o'r [[Areithiau Pros]], ar fardd o'r enw Gwgon y dywedir ei fod yn byw yn ardal [[Llanfair-yng-Nghaereinion]] ym [[teyrnas Powys|Mhowys]] yn amser [[Dafydd ab Owain Gwynedd]], ond ni ellir rhoi llawer o bwys ar hynny.<ref>R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Gwgon Brydydd'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Cerdd==
Mae'r unig gerdd gan Wgon sydd ar glawr i'w cael mewn [[llawysgrif]]au sy'n dyddio o ganol yr [[16eg ganrif]] ond sy'n deillio o lawysgrif(au) coll cynharach. Moliant i Lywelyn fel arweinwr milwrol yw'r gerdd, ar ffurf pum [[Englyn]] [[Englyn Unodl Union|Unodl Union]] rheolaidd. Yr unig gyfeiriad penodol yw hwnnw at gyrch gan Lywelyn ar [[Llangollen|Langollen]]; mae hyn yn awgrymu dyddio'r gerdd i'r cyfnod [[1211]]-[[1214]] pan fu elyniaeth rhwng Llywelyn a [[Madog ap Gruffudd]], tywysog [[Powys Fadog]].<ref>R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Gwgon Brydydd'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 24:
[[Categori:Marwolaethau'r 1220au]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
 
{{Authority control}}