Gwilym Rhyfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau |
Awdurdod |
||
Llinell 1:
Yr oedd '''Gwilym Rhyfel''' neu '''Gwilym Ryfel''' (fl. [[1170au]]), yn [[Beirdd y Tywysogion|fardd llys]] a ganai yng [[teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] a [[teyrnas Powys|Powys]] yn hanner olaf y [[12fed ganrif]].<ref name="ReferenceA">J. E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwilym Rhyfel'.</ref>
==Bywgraffiad==
Ychydig a wyddys am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o'i cerddi. Canai i noddwyr yng [[Gwynedd Uwch Conwy|Ngwynedd Uwch Conwy]] ond ceir cyfeiriad at [[Tegeingl|Degeingl]] hefyd sy'n awgrymu cysylltiad posibl â'r rhan honno o'r [[Berfeddwlad]]. Canodd ei gyd-fardd [[Gruffudd ap Gwrgenau]] [[marwnad|farwnad]] iddo sy'n dangos ei fod yn frodor o Bowys a'i fod wedi marw mewn brwydr ymhell o'i fro enedigol. Mae hynny yn ei dro yn ategu'r awgrym yn enw'r bardd mai bardd-ryfelwr ydoedd, fel [[Dafydd Benfras]] a rhai eraill o'r [[Gogynfeirdd]]. Cyfeirir ato gyda pharch gan [[Iorwerth Beli]] (14eg ganrif) fel un o brif feirdd y traddodiad, gyda [[Cynddelw Brydydd Mawr]], [[Llywarch ap Llywelyn]] ("Prydydd y Moch") a Dafydd Benfras.<ref
==Cerddi==
Dim ond pedair cerdd o waith y bardd sydd wedi goroesi, sef dwy gyfres o [[englyn]]ion i'r tywysog [[Dafydd ab Owain Gwynedd]], ynghyd â dau [[englyn]] i farch a ddyfynnir yng Ngramadeg [[Einion Offeiriad]] (14eg ganrif) fel enghraifft o'i waith.<ref
Roedd Dafydd ab Owain yn fab hynaf [[Owain Gwynedd]] trwy ei gyfnither [[Cristin]]. Mae un o'r cerddi iddo yn gerdd [[dadolwch]] (cerdd sy'n erfyn am gymod) ac ymddengys fod y bardd wedi digio'i noddwr. Mae'r ail yn gyfres o dri englyn unodl union a ganwyd, mae'n debyg, tua [[1174]]-[[1175]] yn y flwyddyn brin pan ymestynnai awdurdod Dafydd dros y rhan fwyaf o Wynedd.<ref
Ac eithrio'r ddau englyn yng Ngramadeg Einion Offeiriad, cedwir y testunau yn [[Llawysgrif Hendregadredd]].<ref
==Llyfryddiaeth==
Llinell 25:
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]
{{Authority control}}
|