Hanes Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B 1 cysylltiadau rhyngwici a ddarperir bellach gan Wikidata ynn d:q13128952
Awdurdod
Llinell 2:
Chwedl Gymreig yn dyddio o'r Canol Oesoedd yw '''Hanes Taliesin'''. Fe'i ceir yn ei ffurf gyflawn gan [[Elis Gruffydd]] yn y [[16eg ganrif]], ond credai Syr [[Ifor Williams]] y gallai'r gwreiddiol fod yn dyddio o'r [[9fed ganrif|9fed]] neu'r [[10fed ganrif]]. Mae'n rhoi hanes am y bardd [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin]].
 
Yn ôl y chwedl, roedd gan [[Ceridwen]] a'i gŵr Tegid Foel ddau blentyn. Roedd y ferch, [[Creirwy]], yn arbennig o hardd, ond roedd y mab, Morfran ap Tegid, yn eithriadol o hyll. Gan ei fod mor hyll, penderfynodd Ceridwen y byddai'n rhoi "awen a gwybodaeth" iddo i wneud iawn am hynny. Bu'n berwi pair gydag amrywiaeth o lysiau am flwyddyn a diwrnod, gyda'r bwriad fod Morfan yn ei yfed ac yn cael yr awen. Roedd hen ŵr dall o'r enw Morda yn cadw'r tân dan y pair, a Gwion Bach yn gofalu am y pair.
 
[[Delwedd:Pair Ceridwen 00.JPG|250px|bawd|chwith|Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)]]
Pan oedd y gymysgedd bron yn barod, tasgodd tri dafn o'r pair ar law Gwion Bach, a chan eu bod mor boeth, fe'i rhoes yn ei geg. Sylweddolodd Ceridwen ar unwaith ei fod ef wedi ei gynysgaeddu a'r awen yn lle ei mab, a dechreuodd ei ymlid. Newidiodd Gwion Bach ei ffurf yn [[ysgyfarnog]], ond newidiodd Ceridwen ei hyn yn [[Milgi|filiast]] i'w ymlid. Yna trodd Gwion yn bysgodyn, a Ceridwen yn ddyfrgi. Trodd Gwion ei hun yn aderyn, a throdd Ceridwen yn walch i'w ymlid; yna pan oedd y gwalch bron a'i ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith. Trodd ei hun yn ronyn gwenith ynghanol y pentwr, ond trodd Ceridwen ei hun yn iar a'i fwyta.
 
Wedi bwyta Gwion beichiogodd Ceridwen, a naw mis yn ddiweddarach ganwyd plentyn iddi. Gwyddai Ceridwen mai Gwion Bach oedd y plentyn, ond roedd mor dlws fel na allai ei ladd. Gosododd ef mewn cwdyn o groen a'i daflu i'r môr.
 
[[Delwedd:Taliesin gored(Guest).JPG|250px|bawd|chwith|Elffin yn darganfod Taliesin yng Nghored Wyddno - darlun rhamantus a gyhoeddwyd yn argraffiad 1877 o ''[[Mabinogion]]'' yr Arglwyddes [[Charlotte Guest]]]]
Llinell 33:
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Taliesin]]
 
{{Authority control}}