Hopcyn ap Tomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Yr oedd '''Hopcyn ap Tomas ab Einion''' (fl. tua [[1337]] - tua [[1408]]) yn uchelwr dysgedig a noddwr beirdd o [[Ynysforgan]] (Ynys Forgan) ac [[Ynysdawe]] (Ynys Dawe, Ynys Dawy), penrhyn [[Gŵyr]], de [[Cymru]].<ref name="R. Iestyn Daniel 2002">R. Iestyn Daniel (gol.), ''Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest'' (Aberystwyth, 2002).</ref>
 
==Bywgraffiad==
Roedd Hopcyn yn un o wŷr mwyaf dysgedig ei oes yn [[llenyddiaeth Gymraeg|llenyddiaeth]] a [[hanes Cymru]]. Roedd yn gasglwr a chopïwr [[llawysgrif]]au brwd ac ar un adeg bu rhai o drysorau'r genedl yn ei gartref yn Ynysforgan.<ref> name="R. Iestyn Daniel (gol.), ''Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest'' (Aberystwyth, 2002).<"/ref>
 
Gwyddys ei fod yn berchen ar [[Llyfr Coch Hergest|Lyfr Coch Hergest]] gan fod cofnodion ynddo amdano gan y copïydd Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuallt, ac mae'n bosibl mai ar gyfer Hopcyn y lluniwyd y llawysgrif enwog honno. Copïydd lleyg (h.y. heb weithio mewn [[sgriptoriwm]]) oedd Hywel, ac ymddengys ei fod wedi gwneud cryn dipyn o waith i Hopcyn ap Tomas. Ceir dim llai na phum [[awdl]] i Hopcyn yn y Llyfr Coch, gwaith [[Llywelyn Goch ap Meurig Hen]], [[Dafydd y Coed]], [[Madog Dwygraig]], [[Meurig ab Iorwerth]] ac [[Ieuan Llwyd ab y Gargam]]. Yn ogystal ceir awdl gan [[Y Proll]] i'w fab Tomas ap Hopcyn, yntau'n noddwr beirdd.<ref> name="R. Iestyn Daniel (gol.), ''Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest'' (Aberystwyth, 2002).<"/ref>
 
Mae [[Dafydd y Coed]] yn dweud am Hopcyn ei fod yn hael eithriadol a bod copïau o'r ''[[Elucidarium]]'', y [[Ystoryaeu Seint Greal|Sant Greal]], a llyfrau [[Cyfraith Hywel Dda]] a'r [[Annales Cambriae]] yn ei lys:
Llinell 17:
Dywedir fod Hopcyn yn barddoni yn ogystal, ond nid oes enghraifft o'i waith ar gael heddiw. Roedd ei chwaeth mewn llenyddiaeth yn geidwadol ac ymddengys nad oedd yn meddwl llawer o'r [[cywydd]] ffasiynol newydd.
 
Yn ogystal â chroesawu'r beirdd i'w aelwyd, roedd gan Hopcyn ap Tomas enw fel arbenigwr ar y [[brud]]iau (yn rhyddiaith ac [[canu Darogan|ar gân]]), y storfa o chwedlau a hanes traddodiadol a cherddi proffwydoliaeth am ddyfodol y [[Brythoniaid]], neu'r [[Cymry]]. Yn y cyd-destun hwn gwyddys fod neb llai nag [[Owain Glyndŵr]] wedi ymgynghori â Hopcyn, a hynny yn [[1403]] pan fu ar ei anterth.<ref name="Lloyd a Morfydd E 1986">Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), ''Drych yr Oesoedd Canol'' (Caerdydd, 1986).</ref>
 
Ni wyddys pryd fu farw ond roedd yn fyw yn 1403, pan gyfarfu Glyndŵr, ac efallai mor ddiweddar â [[1408]].<ref>Nesta name="Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), ''Drych yr Oesoedd Canol'' (Caerdydd, 1986).<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 35:
[[Categori:Pobl o Abertawe]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymraeg]]
 
{{Authority control}}