Hu Gadarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q830519 (translate me)
Awdurdod
Llinell 2:
[[Arwr]] Cymreig chwedlonol, ffrwyth dychymyg [[Iolo Morgannwg]] yn bennaf, yw '''Hu Gadarn'''.<ref>A. C. Rejhon, 'Hu Gadarn: Folkore and Fabrication', yn ''Celtic Folkore and Christianity'', gol. Patrick K. Ford (Santa Barbara, 1983), tt. 201-12.</ref>
 
Fe'i portreadir gan Iolo yn ei "Drydedd Gyfres" o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]], sef 'Trioedd Beirdd Ynys Prydain' (a gyhoeddwyd yn y [[Myvyrian Archaiology of Wales]]), fel math o arwr cenedlaethol a oedd yn ymgorffori pob agwedd ar ddiwylliant y [[Cymry]], yn fath o hynafydd totemaidd, fel petai. Yn ôl Iolo, arweiniodd Hu y Cymry i [[Ynys Prydain]] o Ddeffrobani (enw canoloesol ar [[Sri Lanka]] a fenthycwyd gan Iolo). Dysgodd Hu y Cymry sut i gyfanheddu'r tir a byw yn heddychlon â'i gilydd yn ogystal a chrefft [[Cerdd Dafod]] er mwyn diogelu'r cof am yr hyn a fu.
 
Ymddengys fod Iolo wedi benthyg cymeriad Hu Gadarn o'r gerdd ganoloesol enwog "Cywydd y Llafurwr", gan [[Iolo Goch]] (tua 1320–1398). Yn y [[cywydd]] hwnnw mae Iolo Goch yn adrodd sut y bu rhaid i Hu Gadarn, oedd yn [[ymerawdr]] [[Caergystennin]] (''Constinobl''), lywio [[aradr]] a bwydo ei hun o ffrwyth ei waith yn unig.
 
:Hu Gadarn, feistr hoyw giwdawd,
Llinell 13:
:Aradr gwaisg arnoddgadr gwiw.<ref>Dafydd Johnston (gol.), ''Gwaith Iolo Goch'' (Caerdydd, 1988), cerdd xxviii, llau. 63-68.</ref>
 
Mae'r foeswers honno yn deillio o ffynhonnell [[Ffrangeg]] a gyfieithwyd i'r [[Cymraeg|Gymraeg]] yn y [[13eg ganrif]] dan yr enw ''[[Campau Charlymaen]]''; trosodd y cyfieithydd enw un o'r arwyr, ''Hugun le Fort'' fel "Hu Gadarn".
 
Ffugiodd Iolo Morganwg draddodiad arall am Hu Gadarn yn defnyddio ei [[ychen bannog]] i dynu'r [[afanc]] o'r llyn ac felly gwaredu Ynys Prydain o'r dylifiadau a achoswyd gan yr anghenfil chwedlonol honno.
Llinell 34:
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
 
{{Authority control}}