Hugh Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cyswllt uniongyrchol i'r nod
Awdurdod
Llinell 5:
Ganwyd Hugh yn fab i William ac Elisabeth Jones yn eu tyddyn o'r enw Maesglasau, yng nghysgod Craig Maesglasau, plwyf [[Mallwyd]], ger [[Dinas Mawddwy]]. Mae dyddiad ei eni yn anhysbys, ond cafodd ei fedyddio ar 24 Tachwedd, 1749.
 
Cafodd ei addysg elfennol gan gurad y plwyf. Aeth i [[Llundain|Lundain]] lle cafodd swydd fel athro ysgol cynorthwyol. Ni arosodd yno'n hir a daeth adref yn 1774 i fugeilio ym Maesglasau. Yn ddiweddarach bu'n cadw ysgol yn [[Sir Feirionnydd]] (Dinas Mawddwy, [[Abercywarch]], Mallwyd) a [[Sir Drefaldwyn]].
 
Ar ôl rhoi'r gorau i'w swydd fel athro treuliodd weddill ei oes fel cyfieithydd yng ngwasanaeth cyhoeddwyr gogledd Cymru, yn cynnwys Richard Jones, [[Dolgellau]], Lewis Evan Jones, [[Caernarfon]], a [[Thomas Gee (hynaf)|Thomas Gee]]'r hynaf (tad [[Thomas Gee]]) yn [[Dinbych|Ninbych]]. Bu farw ar 16 Ebrill, 1825, ac fe'i claddwyd ym mynwent [[Henllan, Sir Ddinbych|Henllan]], ger Dinbych.
Llinell 15:
Mae ei weithiau rhyddiaith eraill yn cynnwys cyfieithiad o waith [[Josephus]] (1,200 tudalen) ac ''Y Byd a Ddaw'' o waith y Dr [[Isaac Watts]].
 
Fel bardd ac emynydd fe'i cofir yn bennaf am ei emyn 'O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn', a ddisgrifwyd gan [[O. M. Edwards]] fel "yr emyn gorau yn yr iaith Gymraeg." Cyhoeddodd yn ogystal ddwy gyfrol o gerddi ac emynau, ''Gardd y Caniadau'' ([[1776]]) a ''Hymnau Newyddion'' ([[1797]]).
 
Dywedir fod Hugh Jones wedi ymddiddori yn yr [[anterliwt]]iau yn ei ieuenctid ac wedi ysgrifennu rhai, ond nid oes yr un i'w cael heddiw. Yn ôl yr hanes trôdd ei gefn arnynt dan ddylanwad [[Methodistiaeth]].
Llinell 39:
[[Categori:Mawddwy]]
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]]
 
{{Authority control}}