Humphrey Lhuyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cofeb
Awdurdod
Llinell 3:
[[Delwedd:Yr Eglwys Wen Dinbych St Marcella 07.JPG|bawd|Yr Eglwys Wen (neu 'Llanfarchell'), [[Dinbych]], lle'i claddwyd]]
[[Delwedd:Yr Eglwys Wen St Macella denbigh Dinbych 20.JPG|bawd|Cofeb neu feddrod Llwyd, gyda glôb ar ei ben i nodi'i gyfraniad i gartograffeg; Yr Eglwys Wen.]]
Meddyg, cartograffydd, hynafiaethydd ac awdur Cymreig oedd '''Humphrey Lhuyd''', weithiau '''Humphrey Llwyd''' ([[1527]] - [[31 Awst]] [[1568]]).
 
==Bywgraffiad==
Llinell 10:
Fe'i addysgwyd yng [[Coleg Brasenose, Rhydychen|Ngholeg Brasenose]], [[Rhydychen]] ac roedd yn gyfoeswr i [[Thomas Salisbury]] a [[William Morgan]]. Bu'n feddyg preifat i Henry FitzAlan, 19fed Iarll Arundel am gyfnod, cyn dychwelyd i Ddinbych yn 1563. Ynghyd â llyfrgell Arundel, ei lyfrgell personol ef oedd craidd [[y Casgliad Brenhinol]] - a gedwir heddiw yn y [[Llyfrgell Brydeinig]].<ref name=ODNB>R. Brinley Jones, ‘[[Llwyd, Humphrey (1527–1568)]]’, [[Oxford Dictionary of National Biography]], Gwasg Prifysgol Rydychen, Medi 2004</ref> Bu'n Aelod Seneddol dros [[East Grinstead]] yn ystod teyrnasiad [[Elisabeth I, brenhines Lloegr]] (1559).
 
Ei arwyddair oedd: ''Hwy pery klod na golyd''. <ref name=ODNB>R. Brinley Jones, ‘Llwyd, Humphrey (1527–1568)’, [[Oxford Dictionary of National Biography]], Oxford University Press, Sept 2004</ref> Cedwir ar glawr [[marwnad]] iddo gan [[Lewis ab Edward]]. Priododd Barbara, aeres yr Arglwydd Lumley, a bu iddynt bedwar o blant. Bu farw yn Ninbych, a chladdwyd ef yn yr Eglwys Wen yno.
 
==Ei waith==
Llinell 20:
</gallery>
 
Yn ogystal a'r cyhoeddiadau a nodir isod, cyhoeddodd Lhuyd ''The Description of Cambria'', fersiwn wedi ei helaethu o lyfryn gan Syr [[John Price]], [[Aberhonddu]]. Defnyddiodd [[David Powel]] y gwaith yma fel sylfaen i'w lyfr ''The Historie of Cambria'' (1584).
 
Roedd yn adnabod [[Abraham Ortelius]], ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i ''[[Theatrum Orbis Terrarum]]'' Ortelius yn [[1573]], un o Gymru ac un o Gymru a Lloegr. Rhain oedd y mapiau cyntaf o'r gwledydd yma i'w hargraffu ar wahan.
Llinell 48:
[[Categori:Meddygon Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Ddinbych]]
 
{{Authority control}}