Huw Cae Llwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Un o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] yn ail hanner y [[15fed ganrif]] oedd '''Huw Cae Llwyd''' (ganed tua [[1431]] - bu farw ar ôl [[1505]]). Fe'i cofir yn bennaf fel bardd mawl a ganodd i rai o wŷr enwocaf y cyfnod. Roedd ei fab, [[Ieuan ap Huw Cae Llwyd]], yn fardd hefyd, ac mae'n debygol y bu Huw yn [[athro barddol]] iddo.<ref name="Leslie Harries 1953">Leslie Harries (gol.), ''Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.</ref>
 
==Bywgraffiad==
Ychydig iawn a wyddom am fywyd y bardd ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn ei gerddi. Mae bron yn sicr iddo gael ei eni yn [[Llandderfel]], [[Sir Feirionnydd]], tua'r flwyddyn 1431. Yn ddyn ifanc, gadawodd [[Gogledd Cymru]] i ymsefydlu ym [[Brycheiniog|Mrycheiniog]] ([[1456]]), gan alw yn [[Llinwent]], [[Maesyfed]], ar ei ffordd i'r De. Yn [[1475]] aeth gyda'i fab Ieuan ar [[pererindod|bererindod]] i [[Rhufain|Rufain]].<ref> name="Leslie Harries (gol.), ''Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.<"/ref>
 
Canodd i rai o arglwyddi Cymreig pwysicaf y dydd ym Mrycheiniog, [[Gwent]] a [[Morgannwg]]. Roedd ei noddwyr yn cynnwys disgynyddion [[Dafydd Gam]], Syr Rosier o'r [[Tretŵr]], Syr [[Rhys ap Thomas]], a sawl aelod o deulu'r [[Herbertiaid]] yn cynnwys Syr [[Walter Herbert]].<ref> name="Leslie Harries (gol.), ''Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.<"/ref>
 
Yn ôl un traddodiad cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys [[Llanuwchllyn]], ond does dim prawf o hynny.<ref> name="Leslie Harries (gol.), ''Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.<"/ref>
 
==Cerddi==
[[Canu mawl]] traddodiadol yw swmp gwaith y bardd. Canodd sawl [[cywydd]] mawl a [[marwnad]] i arweinwyr Cymreig y Deheudir (gweler uchod). Roedd hyn yng nghyfnod [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]] ac ymgyrch [[Harri Tudur]], ond ni cheir cerdd ganddo i'r gwron hwnnw. Canodd gywyddau a cherddi crefyddol hefyd, yn cynnwys un a gyfansoddodd yn Rhufain, cerddi i [[Crist|Grist]] a'r [[sant|Seintiau]], ac un i Grog [[Aberhonddu]]. Dim ond un gerdd serch sydd ganddo.<ref> name="Leslie Harries (gol.), ''Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.<"/ref>
 
Dyma ddarn o'i gywydd i Greiriau Rhufain fel enghraifft o'i waith:
Llinell 23:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau|2}}
 
 
{{Beirdd yr Uchelwyr}}
Llinell 35 ⟶ 34:
[[Categori:Marwolaethau'r 1510au]]
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]]
 
{{Authority control}}