Islwyn Ffowc Elis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 4:
 
==Bywyd a gwaith==
Cafodd ei eni yn [[Wrecsam]] a'i fagu yn [[Glynceiriog|Nglynceiriog]], pentref cwbl Gymraeg a Chymreig bryd hynny, tan ei fod yn bump oed, ac wedyn ar fferm y teulu, Aberwiel, ychydig tu allan i'r pentref a dwy filltir o ffin [[Lloegr]]. Priodolai Islwyn Ffowc Elis ei sêl dros feithrin y Gymru Gymraeg i’r ffaith y cawsai ei fagu mor agos i ffin Lloegr.<ref>’Y rhaid sydd arnaf’ yn ‘‘Fy Nghymru’’ (1961)</ref> Aeth i Ysgol Gynradd Nantyr cyn mynd i Ysgol Uwchradd [[Llangollen]] ac wedyn i [[Prifysgol Cymru, Bangor|Goleg Prifysgol Cymru, Bangor]]. Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn 1943, ar sail heddychiaeth Gristnogol.<ref>Chapman, ''Rhywfaint o Anfarwoldeb''</ref> Dechreuodd lenydda’n 12 oed yn ysgol Llangollen, gan gynhyrchu barddoniaeth, storïau a dramâu. Tra yng Ngholeg Bangor enillodd gadair Eisteddfod Lewis’s Lerpwl. Tra yn y coleg y dechreuodd berfformio a darlledu yng nghwmni ei gyd-fyfyrwyr, gan ysgrifennu caneuon a llunio rifiwiau.<ref>Llwyd tt. 33–37</ref> Cyn mynd i'r weinidogaeth bu yng ngholegau diwinyddol [[Aberystwyth]] a [[Bangor]].
 
Bu’n weinidog gyda’r [[Methodistiaid Calfinaidd]] o [[1950]] hyd [[1956]], yn Llanfair Caereinion ac yna Niwbwrch. Tra’n weinidog enillodd y [[Medal Ryddiaith|Fedal Ryddiaith]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951|Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst]], [[1951]], am gyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd wedyn gan Wasg Gomer, yn y gyfrol ''[[Cyn Oeri'r Gwaed]]''. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, ''[[Cysgod y Cryman]]'' yn 1953. Ar yr un pryd roedd yn magu anfodlonrwydd gyda chrefydd gyfundrefnol, fel y mae’n egluro yn ei ysgrifau 'Lludw’r weinidogaeth', ''Y Dysgedydd'' (1952) ac 'Y colledigion', 'Yr hen gyfundrefn annwyl', a 'Machlud a gwawr y fugeiliaeth', ''Y Drysorfa'' (1955). At hynny nid oedd yn gysurus yn ei waith.<ref>Llwyd tt. 45–51</ref> Mewn cyfweliad yn ''Mabon 1(6)'' (1973) dywedodd:
 
{{dyfyniad|"Fe ddaeth yn amlwg yn fuan nad oedd gen i dymheredd gweinidog. Roeddwn i’n rhy anghymdeithasol ac roedd yn gas gen i ymweld â thai i fân siarad; gwersi oedd fy mhregethau yn hytrach na pherorasiynau swnfawr (er gofid i’r saint), ac roedd mynychu pwyllgor a chyfarfod dosbarth a chyfarfod misol a sasiwn yn ing. Mi ddechreuais sgrifennu’n fwy toreithiog nag a wnaethwn i hyd yn oed mewn ysgol a choleg, ond doedd hynny ddim yn lleddfu’r gwewyr."<ref>Cyfweliad ag Islwyn Ffowc Elis ym Mabon 1(6) (1973) wedi ei ddyfynnu yn ''Bro a Bywyd Islwyn Ffowc Elis'' (t. 44)</ref>}}
 
Ymddiswyddodd o’r weinidogaeth yn 1956 gan fentro ar gyfnod o chwe mlynedd a hanner heb swydd gyflogedig i’w gynnal ef a’i deulu, sef ei wraig Eirlys a’i ferch Siân. Yn hytrach enillai ei damaid o’i gynnyrch llenyddol, o’i waith darlledu ac ambell i gyfnod o waith cynhyrchu i’r [[BBC]].<ref>Llwyd t 57</ref> Ef oedd y cyntaf i geisio cynnal ei hunan fel llenor Cymraeg proffesiynol, a phrin yw’r rhai hynny a lwyddodd i efelychu ei gamp ers hynny, o leiaf hyd at ddyddiau twf [[S4C]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3120000/newsid_3128600/3128691.stm 'Talu teyrnged i Islwyn Ffowc'], gwefan y BBC, adalwyd 31 Mai 2008</ref>
 
Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr ugeinfed ganrif wedi bod yn denu’r ifainc ledled Ewrop, gan gynnwys y Cymry Cymraeg. Roedd Islwyn Ffowc Elis ymhlith y rhai a welent fod yn rhaid creu diwylliant poblogaidd cyfoes rhag i’r ifainc droi eu cefn ar y Gymraeg. Roedd ei nofel gyntaf, ''Cysgod y Cryman'', llawn cymeriadau ifainc byw, yn stori afaelgar oedd yn ymdrin â bywyd a themâu cyfoes. Dyma'r nofel a osododd sail y nofel Gymraeg fodern. Trwy’r nofel hon denwyd darllenwyr ifainc newydd i’r nofel Gymraeg.<ref name="Stephens">''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' Gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru 1986)</ref><ref name="BBC">[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddddwyrain/enwogion/llen/pages/islwyn_ffowc_elis.shtml 'Islwyn Ffowc Elis', gwefan y BBC (adalwyd 31 Mai 2008)]</ref> Mae’r ffaith mai ''Cysgod y Cryman'' yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau yn tystio i'w llwyddiant. ''Cysgod y Cryman'' enillodd gystadleuaeth ‘Llyfr y Ganrif’ yn [[1999]] ar gyfer llyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]].<ref>Llwyd t. 123</ref> Dewiswyd ''Cysgod y Cryman'' hefyd yn un o ddeg o ‘Lyfrau’r Ganrif’ yn [[2007]] mewn ymgyrch a drefnwyd gan S4C.
 
Yr oedd peth o’i gynnyrch ysgafnaf hefyd wedi tynnu llid rhai beirniaid llenyddol yn ei ben, yn enwedig ''Y Gromlech yn yr Haidd'' ac ''Eira Mawr'' a ysgrifennodd yn ystod ei ail gyfnod o lenydda llawn amser rhwng [[1971]] a [[1975]].<ref name="Stephens" /><ref name="BBC" /><ref>Llwyd t. 90</ref> Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai hefyd ganeuon a sgriptiau [[radio]] a [[teledu|theledu]], i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant poblogaidd. Ymhlith ei sgriptiau roedd ''Rhai yn Fugeiliaid'' (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar gyfer y teledu.<ref>Llwyd tt 93, 105</ref> Cynhyrchodd lenyddiaeth heblaw am nofelau, yn gyfieithiadau megis ''Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar'' (1961), yn ysgrifau, yn llyfrau academaidd, gan olygu cyfrolau eraill megis ''Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd'' (1956).
Llinell 80:
[[Categori:Nofelwyr Cymraeg]]
[[Categori:Pobl o Wrecsam]]
 
{{Authority control}}