Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iŵl Cesar"

Ychwanegwyd 17 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
(Awdurdod)
 
==Hanes==
Roedd Cesar yn fab i [[Gaius Julius Caesar yr Hynaf]] ac [[Aurelia Cotta]]. Er bod teulu'r Julii o dras uchel, yn wir yn haeru eu bod yn ddisgynyddion [[Aeneas]] o [[Caerdroea|Gaerdroea]] a thrwyddo ef yn ddibynyddion y dduwies [[Gwener (duwies)|Gwener]], nid oedd aelod o'r teulu wedi dal swydd [[Conswl Rhufeinig|conswl]] ers amser maith. Roedd modryb Cesar, Julia, yn wraig i'r cadfridog [[Gaius Marius]].
 
Yn [[88 CC]] dechreuodd ymryson am rym rhwng Marius a [[Sulla]], gyda theulu Cesar yn ochri gyda Marius. Bu farw ei dad yn [[85 CC]], gan adael Cesar yn ben y teulu yn bymtheg oed. Y flwyddyn wedyn, penodwyd ef i swydd ''[[Flamen Dialis]]'', archoffeiriad [[Iau (duw)|Iau]]. Yn [[83 CC]] priododd Cornelia, merch y conswl [[Lucius Cornelius Cinna]], oedd mewn cynghrair a Marius. Wedi marwolaeth Marius, dychwelodd Sulla o'r dwyrain i gipio grym yn Rhufain, ac ar ddechrau [[81 CC]], apwyntiwyd ef i swydd ''[[unben]]'' gan Senedd Rhufain. Fel perthynas i Marius trwy briodas a mab-yng-nghyfraith i Cinna, collodd Cesar ei swydd fel ''Flamen Dialis''. Mynnodd Sulla ei fod yn ysgaru Cornelia, ond gwrthododd Cesar a bu raid iddo adael Rhufain. Dychwelodd wedi marwolaeth Sulla yn [[78 CC]].
Yn [[75 CC]] teithiodd Cesar i [[Rhodos]] i astudio areithyddiaeth dan [[Apollonius Molon]], oedd eisoes wedi bod yn athro ar [[Cicero]]. Ar y ffordd yno, cipiwyd ei long gan fôr-ladron o [[Cilicia]], a chymerwyd ef yn garcharor a'i gadw ar ynys [[Farmakos|Pharmacusa]] yn y [[Dodecanese]]. Pan ofynnodd y môr-ladron bris o ugain talent am ei ryddid, mynnodd Cesar ei fod yn werth 50 talent. Addawodd Cesar i'r môr-ladron y byddai'n dychwelyd ac yn eu [[croeshoelio]] i gyd. Wedi i'r pris gael ei dalu, cododd Cesar lynges, daliodd y môr-ladron, a chroeshoeliodd hwy yn unol â'i addewid.
 
Bu farw Cornelia ar enedigaeth plentyn tua [[69 CC]], ac yn 67 CC ail-briododd Cesar a [[Pompeia]]. Ni fu iddynt blant, ac ysgarodd Cesar hi tua [[61 CC]].
 
Yn [[60 CC]] daeth Cesar i gytundeb a [[Gnaeus Pompeius Magnus]] a [[Marcus Licinius Crassus]] i rannu grym, a phriododd Pompeius ferch Cesar, Julia. Galwyd y cynghrair yma yn y ''triumvirate''. Yn ôl eu cytundeb, daeth Cesar yn llywodraethwr dros [[Gâl]], sef yr ardal sydd yn cwmpasu Gogledd [[yr Eidal]], y [[Swistir]] a [[Ffrainc]] heddiw.
 
Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr [[Helvetii]], [[Orgetorix]], wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr [[Alpau]] i orllewin Gâl. Gadawodd yr Helvetii eu catrefi yn [[58 CC]]. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr [[Allobroges]], roedd Cesar wedi malurio'r bont yn [[Genefa]] i'w hatal rhag croesi. Gyrroedd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. Dilynodd Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r [[Sequani]], ac anrheithio tiroedd yr [[Aedui]], a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi [[Afon Saône]], a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger [[Bibracte]], a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchymynnodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.
 
Gorchfygodd Cesar fyddin o Almaenwyr oedd yn ceisio ymsefydlu yng Ngâl, ac aeth ymlaen i goncro gweddill Gâl mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng [[58 CC]] a [[51 CC]]. Y frwydr dyngedfennol oedd [[Brwydr Alesia]] yn [[52 CC]], pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad [[Vercingetorix]] o lwyth yr [[Arverni]]. Roedd Vercingetorix wedi encilio i fryngaer [[Alesia]], a gosododd Cesar warchae arno. Adeiladodd y Rhufeiniaid fur o amgylch y ddinas, gyda mur allanol i atal unrhyw ymgais gan y Galiaid tu allan i Alesia i godi'r gwarchae. Ceisiodd byddin fawr o nifer o lwythau godi'r gwarchae, ond gorchfygwyd hwy gan Cesar, a bu raid i Vercingetorix ildio. Cadwyd ef yn garcharor yn [[Rhufain]] am bum mlynedd cyn ei ddienyddio.
 
Ysgrifennodd Cesar hanes ei ymgyrchoedd yng Ngâl, dros gyfnod o wyth mlynedd, yn ei lyfr ''[[De Bello Gallico]]''.
[[Delwedd:Siege-alesia-vercingetorix-jules-cesar.jpg|bawd|chwith|250px|Vercingetorix yn ildio i Cesar.]]
 
Bu farw Julia wrth eni plentyn yn [[54 CC]], ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, lladdwyd Crassus gan y [[Parthia]]id. Yn [[52 CC]] priododd Pompeius [[Cornelia Metella]], merch Quintus Caecilius [[Metellus Scipio]], un o elynion pennaf Cesar, a dirywiodd y berthynas rhwng Pompeius a Cesar.
 
Nid oedd llywodraethwr Gâl yn medru mynd i [[Rhufain|Rufain]] heb ganiatâd y [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Pan oedd gyrfa Cesar fel llywodraethwr y dalaith bron ar ben roedd ganddo broblemau gwleidyddol ac roedd yn awyddus i ddychwelyd i Rufain cyn gynted â phosib rhag i'w elynion gwleidyddol ennill y blaen arno. Yn [[49 CC]], croesodd Cesar a'i fyddin [[Afon Rubicon]], y ffin rhwng ei dalaith ei hun a'r Eidal, gan ddechrau [[rhyfel cartref]] yn Rhufain.
[[Delwedd:Cesar-sa mort.jpg|bawd|250px|de|''Mort de César'' (Marwolaeth Cesar) gan Vincenzo Camuccini, 1798]]
 
Teithiodd i'r [[yr Aifft|Aifft]] lle'r oedd y frenhines [[Cleopatra]] yn ceisio adennill ei gorsedd ar ôl cae ei halltudio gan ei brawd (a'i gŵr) Ptolemi. Gyda chymorth Cesar, lladdwyd Ptolemi ac ail-feddiannodd Cleopatra yr orsedd. Syrthiasant mewn cariad a chafodd Cleopatra fab o'r enw Caesarion, ond nid oedd y ddau yn gallu priodi yn ôl y gyfraith Rufeinig. Penododd Cesar ei nai Octavianus fel ei aer yn hytrach na'i fab. Daeth Octavianus i gael ei adnabod yn hwyrach fel Cesar [[Augustus]], [[ymerodr]] cyntaf Rhufain.
 
Roedd pobl a oedd o blaid Senedd gref yn anfodlon bod gan Iŵl Cesar gymaint o bŵer. Ar ''Ides'' (sef canol y mis) Mawrth [[44 CC]] galwyd Cesar i'r Senedd a llofruddiwyd ef gan gynllwynwyr yn cynnwys ei ffrind [[Marcus Junius Brutus]] a [[Gaius Cassius Longinus]]. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad Cassius a Brutus, a chefnogwyr Cesar dan arweiniad [[Marcus Antonius]] ac Octavianus. Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], daeth Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.
[[Categori:Llenorion Lladin]]
[[Categori:Pobl o Rufain]]
 
{{Authority control}}
417,732

golygiad