Jean-Jacques Rousseau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Jean-Jacques Rousseau (painted portrait).jpg|bawd|Jean-Jacques Rousseau]]
 
[[Athronydd]] ac awdur yn yr iaith [[Ffrangeg]] oedd '''Jean-Jacques Rousseau''' ([[28 Mehefin]], [[1712]] - [[2 Gorffennaf]], [[1778]]).
 
==Bywgraffiad==
Cafodd ei eni yn [[Geneva]] i rieni Ffrengig. Daeth yn ffrind i [[Denis Diderot]] ac ymunodd â'r [[Gwyddoniadwyr (Diderot)|Gwyddoniadwyr]]. Credai fod natur y bod dynol yn berffaith ynddi ei hun ond ei bod wedi'i llygru gan gymdeithas amherffaith; amlygir hyn yn bennaf yn ei [[nofel]] ar [[addysg]], ''[[Émile]]'' ([[1762]]). Cafodd syniadau gwleidyddol Rousseau ddylanwad sylweddol ar ei gyfoeswyr yn [[Ffrainc]] a gweddill [[Ewrop]] ac, yn ddiweddarach, ar arweinwyr a damcaniaethwyr y [[Chwyldro Ffrengig]] (er na chredai J.-J. ei hun mewn [[chwyldro]]). Fel llenor cafodd ei arddull cain a syniadaeth [[Rhamantiaeth|Ramantaidd]] ddylanwad ar lenorion fel [[Goethe]], [[Shelley]], [[Byron]] a [[Wordsworth]]. Ceir ei ysgrifeniadau mwyaf personol yn ''[[Les Confessions]]'' a ''[[Rêveries du promeneur solitaire]]'', a gyhoedwyd ar ôl ei farwolaeth. Mewn cyferbyniad â [[Voltaire]] ac eraill o'r Rhesymegwyr, roedd Rousseau yn [[Cristnogaeth|Gristion]] rhyddfrydol a gredai fod [[Natur]] yn allwedd i ddeall y [[Duwdod]]. Mae haneswyr yn cytuno i waith Rousseau achosi chwyldro mewn agweddau tuag at y naturiol a'r cyntefig drwy Ewrop; efallai mai ei nofel ''[[Julie ou la Nouvelle Héloïse]]'' a fu'n bennaf gyfrifol am hyn. Ym 1766, ac yntau wedi cilio i Lundain yng nghwmni'r athrnoydd o'r Alban David Hume, roedd Rousseau yn awyddus i ymgartrefu yng Nghymru. Cynigodd yr Aedol Seneddol [[Chase Price]] lety iddo yng Nghymru, ond fe'i perswadiwyd gan David Hume i fynd i Swydd Stafford yn lle. Trafodir hyn mewn erthygl gan Heather Williams, 'Cymru trwy lygaid Rousseau (ac eraill)', ''[[Y Traethodydd]]'' Hydref 2013.
 
== Gwaith Rousseau ==
Llinell 49:
[[Categori:Nofelwyr Ffrangeg]]
[[Categori:Pobl o Genefa]]
 
{{Authority control}}