Kynniver Llith a Ban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 1:
Llyfr gan y dyneiddiwr Cymreig [[William Salesbury]] yw '''''Kynniver Llith a Ban''''' (cyhoeddwyd yn [[1551]]), sy'n cynnwys cyfieithiad Cymraeg y darlleniadau o'r [[Efengyl|Efengylau]]au a'r Epistolau sydd yn y ''[[Llyfr Gweddi Gyffredin]]'' Saesneg a ddefnyddid gan [[Eglwys Loegr]]. Dyma'r tro cyntaf, hyd y gwyddys, i rannau sylweddol o'r [[Testament Newydd]] gael eu cyfieithu i'r Gymraeg yn uniongyrchol o'r testunau [[Groeg]] gwreiddiol.<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru).</ref> Mae'n rhagredegydd i'r cyfieithiad Cymraeg o'r [[Y Testament Newydd, 1567|Testament Newydd]] gan Salesbury a chyfieithiad [[William Morgan]] o'r [[Beibl]] yn 1588.<ref name="Thomas Parry 1944">Thomas Parry, ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).</ref>
 
==Disgrifiad==
Teitl llawn y llyfr yw ''Kynniver llith a ban or yscrythur lan ac a ddarlleïr yr Eccleis pryd Commun y Sulieu a'r Gwylieu trwy'r vlwyddyn: o Cambericiat W.S.''.<ref> name="Thomas Parry, ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).<"/ref>
 
Mae'n cynnwys anerchiad [[Lladin]] i esgobion [[Cymru]] a [[Henffordd]], yn cynnwys [[Robert Ferrar]], [[Esgob Tyddewi]], ac [[Arthur Bulkeley]], [[Esgob Bangor]].<ref name="Ceri Davies 1980">Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632 (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1980).</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
*William Salebury, ''Kynniver llith a ban or yscrythur lan...'' Argraffwyd gan Robert Crowley, Llundain, 1551.<ref> name="Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632 (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1980).<"/ref>
**''Kynniver Llith a Ban''. Adargraffiad manwl gyda rhagymadrodd a nodiadau, golygwyd gan [[John Fisher]]. [[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1931.
 
Llinell 21:
[[Categori:Llyfrau Cymreig yr 16eg ganrif]]
[[Categori:William Salesbury]]
 
{{Authority control}}