Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lang Lewys"

Ychwanegwyd 44 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
BNo edit summary
(Awdurdod)
 
==Bywgraffiad==
Yn ôl tystiolaeth Iorwerth Fynglwyd, a gai gryn hwyl am ei ben wrth ei ddychanu, roedd gan Lang wraig o'r enw Lliwelydd. Roedd ganddo enw am fod yn glerwr llawen ac er bod Iorwerth, fel bardd proffesiynol trwyddedig, yn ei ddychanu mae'n amlwg ei fod yn adnabyddus i feirdd proffesiynol eraill Morgannwg ac yn well bardd na'r rhan fwyaf o'i ddosbarth.<ref name="J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg 1948">G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.</ref>
 
[[Cywydd]]au ymryson yw'r unig rai o gerddi Lang sydd ar gael heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â chael nawdd ym mhlasdy Syr Wiliam Mathau yn [[Radur]] ac yn nhŷ Siôn ab Ieuan, trysorwr [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]], swydd a sefydliad gyda thraddodiad hir o noddi'r beirdd. Ar sail hyn gellir derbyn mai gŵr o gyffiniau [[Caerdydd]] oedd Lang. Dywedir ei fod yn [[clera]] ar hyd y 'pyrtwai', sef y ffordd fawr a redai ar draws Morgannwg.<ref name="Williams_t60">G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 60.</ref>
 
Canodd y bardd [[Siôn ap Hywel Gwyn]] gywydd dychan i Lang.<ref>G. name="J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.<"/ref>
 
Ymddengys i Lang ennill enw iddo'i hun fel ymrysonwr a dychanwr y tu allan i Forgannwg ac mae'n bosibl ei fod wedi crwydro mor bell â'r Gogledd hefyd. Dyma enghraifft o'i ddawn ddychanol, wrth iddo ddisgrifio clerwr eglwysig tew, anwybodus o'r enw 'Syr' Gruffudd Fychan, un o'r rhai a grwydrai'r priffyrdd i ganu cerddi moesol a phregethu:
[[Categori:Marwolaethau'r 1520au]]
[[Categori:Pobl o Forgannwg]]
 
{{Authority control}}
760,443

golygiad