Llywarch ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Un o'r mwyaf o'r beirdd llys Cymraeg a adnabyddir fel [[Beirdd y Tywysogion]] oedd '''Llywarch ap Llywelyn''', y cyfeirir ato hefyd wrth ei [[enw barddol]] '''Prydydd y Moch''' (fl. [[1173]] - [[1220]]). Fe'i cysylltir â llys [[Teyrnas Gwynedd]] yn nheyrnasiad [[Dafydd ab Owain Gwynedd]] a [[Llywelyn Fawr]]. Roedd yn fardd [[cenedlaetholdeb Cymreig|cenedlaetholgar]] iawn ac mae ei gefnogaeth frwd i bolisi Llywelyn Fawr o [[Cenedlaetholdeb Cymreig|uno Cymru]] yn elfen amlwg yn ei farddoniaeth.<ref name="Elin M. Jones 1994">Elin M. Jones (gol.), ''Gwaith Llywarch ap Llywelyn'' (Caerdydd, 1994).</ref>
 
==Bywgraffiad==
Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'n debygol iawn mai brodor o [[cwmwd|gwmwd]] [[Is Dulas]] yng [[cantref|nghantref]] [[Rhos]], yn [[y Berfeddwlad]], oedd Llywarch. Mae Arolwg [[Arglwyddiaeth Dinbych]] a wnaed yn 1334 yn cofnodi 'Gwely Prydydd y Moch' (ystyr 'gwely' yw "tir"). Mae'n bosibl y cafodd y bardd y tir fel nawdd gan Llywelyn Fawr. Cofnodir 'Melin Prydydd y Moch' hefyd, a byddai'r bardd yn derbyn ffioedd sylweddol am gael malu ŷd ffermwyr yr ardal.<ref> name="Elin M. Jones (gol.), ''Gwaith Llywarch ap Llywelyn'' (Caerdydd, 1994).<"/ref>
 
Mae ei ffugenw 'Prydydd y Moch' yn cael ei ddadansoddi mewn sawl ffordd. Mae'n bosibl ei fod yn deillio o linellau herfeiddiol iawn mewn cerdd bygwth i [[Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd]] lle mae'n cymharu canu i'r tywysog hwnnw i "heu rhag moch merierid" ('taflu perlau i'r moch', cyfeiriad amlwg at yr adnod [[Beibl]]aidd yn [[Efengyl Mathew]]). Posiblrwydd arall yw mai meichiad - un sy'n cadw moch - oedd y bardd yn ei ieuenctid, cyn iddo ymddyrchafu yn fardd. Yn ardal [[Llangernyw]] cofnodir 'Gafael Prydydd y Moch' ('gafael'="tir") hefyd (cofnodir yn [[Llyfr Coch Asaph]] a ffynonellau eraill).<ref> name="Elin M. Jones (gol.), ''Gwaith Llywarch ap Llywelyn'' (Caerdydd, 1994).<"/ref>
 
Nid yw'n amhosibl fod y bardd [[Dafydd Benfras]], a'i olynodd fel [[pencerdd]] llys Gwynedd, yn fab iddo.
 
==Cerddi==
Cedwir 19 [[awdl]] o waith y bardd, cyfanswm o 1,318 o linellau, ac 11 cyfres o [[englyn]]ion (462 llinell). Mae hyn yn gorff o ganu sy'n ail yn unig i waith [[Cynddelw Brydydd Mawr]]. Ceir sawl cerdd i dywysogion ac arglwyddi Gwynedd, sef [[Dafydd ab Owain Gwynedd]], [[Rhodri ab Owain Gwynedd]], [[Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd]], [[Maredudd ap Cynan]] o Wynedd, Hywel ap Gruffudd o Feirionnydd, Gruffudd ap Hywel a [[Gruffudd ap Llywelyn]]: ond ei waith amlycaf yw ei ganu i'w noddwr pwysicaf [[Llywelyn Fawr]]. Mae'r canu hwn yn cynnwys 'Y Canu Mawr' ac 'Y Canu Bychan', lle gwelir cenedlgarwch y bardd a'i deyrngarwch at Lywelyn ar ei grymusaf.<ref> name="Elin M. Jones (gol.), ''Gwaith Llywarch ap Llywelyn'' (Caerdydd, 1994).<"/ref>
 
Canodd hefyd i Fadog ap Gruffudd Maelor o Bowys, Iorwerth ap Rhotbert o [[Arwystli]], a [[Rhys Gryg]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]]. Yr unig gerddi ganddo ar glawr sy ddim yn gerdd fawl neu farwnad i noddwyr yw ei awdl foliant i Gwenllïan ferch Hywel o [[Gwynllŵg|Wynllŵg]] ac 'Awdl yr Haearn Twym'.<ref> name="Elin M. Jones (gol.), ''Gwaith Llywarch ap Llywelyn'' (Caerdydd, 1994).<"/ref>
 
== Llyfryddiaeth ==
Llinell 31:
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
 
{{Authority control}}