Llywelyn Fardd II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
:''Gweler hefyd [[Llywelyn Fardd I]].''
Yr oedd '''Llywelyn Fardd II''' (fl. tua [[1215]]-[[1280]]) yn [[Gogynfeirdd|Ogynfardd]] a gysylltir â [[teyrnas Powys|Phowys]] a [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Fe'i gelwir yn 'Llywelyn Fardd II' gan ysgolheigion am fod o leiaf dau o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] yn dwyn yr enw '''Llywelyn Fardd''' (gweler hefyd [[Llywelyn Fardd I]]).<ref name="ReferenceA">Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II'.</ref>
 
==Bywgraffiad==
Mae ansicrwydd ynglŷn ag awduraeth rhai o'r cerddi a dadogir ar 'Lywelyn Fardd' yn y llawysgrifau, ond mae'r gwahaniaeth rhwng dyddiadau'r cerddi yn dangos fod pedair cerdd i'w dadogi'n weddol ddiogel ar Lywelyn Fardd II. Mae tystiolaeth y cerddi hynny yn awgrymu iddo fwynhau gyrfa hir o tua [[1215]] hyd tua [[1280]]. Ni wyddys dim amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'r rhain yn dangos cysylltiad cryf â de Powys ([[Powys Wenwynwyn]]).<ref>Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Cerddi==
Cedwir testunau'r pedair cerdd gan y bardd sydd ar glawr yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], a cheir testun un o'r cerddi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.<ref>Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II'.<name="ReferenceA"/ref>
 
Yn ogystal â dwy [[awdl]] i Dduw, ceir awdlau moliant i [[Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn]] o Bowys Wenwynwyn ac i [[Llywelyn Fawr|Lywelyn Fawr]], tywysog Gwynedd. Mae ei gerdd i Lywelyn yn awgrymu ei fod yn ceisio lle yn ei lys fel bardd, ond gan na chafwyd cerdd arall iddo mae'n ansicr a fu'n llwyddianus yn ei gais neu beidio. Yn ei gerdd i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, ymddengys fod y bardd yn dathlu'r ffaith fod ei noddwr wedi derbyn ei ran o'i etifeddiaeth ar farwolaeth ei dad, [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]], pan ranwyd Powys Wenwynwyn yn fân arglwyddiaethau.<ref>Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 26:
[[Categori:Pobl o Bowys]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]
 
{{Authority control}}