Madog ap Selyf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 2:
 
==Bywgraffiad==
Ychydig iawn sy'n hysbys amdano. Tybir ei fod yn ŵr eglwysig yn [[Abaty Ystrad Fflur]], ond nid oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Posiblrwydd arall yw ei fod yn gysylltiedig â [[Llanbadarn Fawr|Llanbadarn]].<ref name="Stephen J. Williams 1968">Stephen J. Williams (gol.) ''[[Ystorya de Carolo Magno]]'' (Caerdydd, 1968). Rhagymadrodd.</ref>
 
Cyfieithodd o leiaf ddau destun Lladin i'r Gymraeg rywbryd yn drydydd chwarter y [[13eg ganrif]]. Un ohonynt yw trosiad [[Cymraeg]] o'r ''Turpini Historia'', sy'n adrodd rhan o hanes [[Siarlymaen]], dan y teitl ''[[Cronicl Turpin]]''. Mae'r testun i'w cael yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]]. Dyma a geir mewn coloffon i'r dudalen gyntaf:
 
:''A'r llyuyr hwnn a ymchoeles'' (cyfieithodd) ''Madawc ap Selyf o Ladin yg Kymraeg, o addolwyn a deisyf Grufud vab Maredud ab Owein ab Grufud ab Rys''.<ref> name="Stephen J. Williams (gol.) ''[[Ystorya de Carolo Magno]]'' (Caerdydd, 1968). Rhagymadrodd.<"/ref>
 
Ar ofyniad [[Gruffudd ap Maredudd ab Owain]], un o ddisgynyddion [[yr Arglwydd Rhys]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]], y gwnaeth Madog y gwaith, felly. Rydymm yn gwybod ei fod wedi trosi testun arall o'r Lladin i Gymraeg yn ogystal. Cyfieithiad o'r testun crefyddol poblogaidd ''[[Transitus Mariae]]'' yw hynny. Unwaith eto mae'r testun yn y Llyfr Gwyn.<ref> name="Stephen J. Williams (gol.) ''[[Ystorya de Carolo Magno]]'' (Caerdydd, 1968). Rhagymadrodd.<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 22:
[[Categori:Pobl o Geredigion]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymreig]]
 
{{Authority control}}